Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Rhowch hwb i’ch incwm – mae galw am ‘Wneuthurwyr Profiad Lletygarwch’!

50+ Event

Mae Coleg Sir Benfro yn gweithio ochr yn ochr â busnesau lletygarwch lleol mewn ymgais i ddenu mwy o bobl hŷn i’r diwydiant cyffrous a deinamig hwn.

Gyda phatrymau sifft hyblyg, ac amrywiaeth enfawr o rolau ar gael, mae’r cyfleoedd yn enfawr i weithwyr hŷn ag awydd newid gyrfa, sy’n edrych i roi hwb i’w hincwm neu sydd wedi cymryd ymddeoliad cynnar ond sy’n chwilio am rywbeth cymdeithasol a gweithgar. Mae’r diwydiant yn chwilio am ‘Wneuthurwyr Profiad’ a fydd yn ychwanegu gwerth at eu busnes trwy eu haeddfedrwydd a’r profiadau bywyd y maent wedi’u hennill.

Wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol, mae’r Coleg yn gallu darparu cyfleoedd hyfforddi wedi’u hariannu ar gyfer y sector twristiaeth ac mae’n cynnal digwyddiad ddydd Mawrth 26 Ebrill o 3yp-5.30yh yng Ngholeg Sir Benfro. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy ddod draw i siarad â rhai o westywyr gorau Sir Benfro; Gwesty St Brides, Gwesty Casblaidd, Gwesty’r Tŷ, Abaty Penalun, The Grove a’r Grŵp Retreats. Bydd pob gwestywr yn rhoi cyflwyniad byr ar yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig fel cyflogwr cyn cynnig cyfweliadau anffurfiol ar gyfer cyflawni tri diwrnod o leoliadau gwaith cyflogedig a allai arwain at gyflogaeth hyblyg.

Astudiaethau achos
Tony, 61, Gweithiwr Bar
Yn wreiddiol o Sir Benfro, roedd Tony yn gyn-drydanwr yn gweithio yn Llundain cyn ymuno â’r gwasanaethau mewn lifrai am ugain mlynedd. “Dw i wastad wedi wynebu’r cyhoedd felly ro’n i’n teimlo y byddai lletygarwch yn ffit perffaith. Dw i am barhau i fod yn brysur ac wynebu heriau newydd; y peth gwych am weithio mewn gwesty hefyd yw’r elfen gymdeithasol – dydw i ddim yn barod i eistedd ar y soffa eto!”

Mandy, 54, Croesawydd y Bwyty
Cyn gynorthwyydd hedfan ac ymgynghorydd gosod eiddo. “Mae’r rôl yn hyblyg, dim ond 15 awr yr wythnos dw i’n gweithio, a dw i wrth fy modd. Ar y dechrau, ro’n i ychydig yn betrusgar wrth symud i letygarwch, ro’n i’n meddwl y byddai’r diwydiant yn rhy ifanc i mi. Ges i fy synnu ar yr ochr orau, mae cydbwysedd gwych o grwpiau oedran yng Ngwesty’r Tŷ, a ‘dyn ni i gyd yn dysgu oddi wrth ein gilydd.”

Darganfod mwy
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad ar y 26ain cofrestrwch ar-lein: bit.ly/50hospitality neu e-bostiwch: marketing@pembrokeshire.ac.uk

Shopping cart close