Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Rownd Derfynol Rithwir Prentis Trin Gwallt y Flwyddyn Conept

Jamie-Lee-Barlett

Mae rownd derfynol fawreddog gwobrau Prentis Trin Gwallt y Flwyddyn Concept yn mynd yn rhithwir wrth i rownd derfynol gyntaf erioed y gystadleuaeth gystadlu mewn fformat newydd oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Wedi’i lansio gan ‘Concept Hair Magazine’, cymerodd dros 800 o drinwyr gwallt dan hyfforddiant o bob rhan o’r DU ran yn y rhagbrofion rhanbarthol yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror. Gan ennill y lle cyntaf yn rhagbrofion rhanbarthol Cymru, bydd prentisiaid Coleg Sir Benfro Lauren Hawkins a Jamie-Lee Barlett nawr yn ymuno â’r 43 arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i gwblhau eu gwaith trin gwallt gartref, yn y gwaith neu’r goleg – yn hytrach na chymryd rhan mewn rownd derfynol fyw fel y cynlluniwyd yn wreiddiol.

Wedi’i gynllunio i ddathlu myfyrwyr trin gwallt a barbwr gorau’r DU, wrth iddynt geisio sicrhau cydnabyddiaeth genedlaethol ar ddechrau eu gyrfaoedd, mae ‘Concept Hair Magazine’ yn awyddus i sicrhau bod gwaith caled yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cael ei gydnabod a’u bod yn gallu coroni enillwyr ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth.

Nawr bydd yn rhaid i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol gyflwyno lluniau cyn ac ar ôl o wallt eu model, fideo heb ei olygu a bwrdd gweledigaeth a fydd yn cael ei feirniadu gan banel o arbenigwyr – gan gynnwys y triniwr gwallt enwog Andrew Barton, Cymrodoriaeth Canghellor Trin Gwallt Prydain Ashleigh Hodges, Cyfarwyddwr Artistig Wahl Global Simon Shaw a Rheolwr Datblygu Busnes Prentisiaeth VTCT, Jacqui McIntosh.

Cyhoeddir yr enillwyr ar Instagram ddydd Llun 5 Hydref.

Mae pum categori wedi’u rhannu’n wyth cystadleuaeth yn seiliedig ar lefelau cymhwyster y cystadleuwyr: Steilio ar y thema 1920au ar gyfer Lefel 1 a Lefel 2; Gwallt Prom i fyny ar gyfer Lefel 2 a Lefel 3; Peaky Blinders vs The Great Gatsby ar gyfer Barbro Lefel 2 a Lefel 3; Lliwio; ac Avant-garde ar y thema Tân ac Iâ.

Mae Lauren Hawkins yn un o chwech sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Gwallt I fyny Lefel 2 tra bod ei chyd-brentis Jamie-Lee Bartlett yn un o chwech yn y rownd derfynol sy’n cystadlu yn y categori Barbro Lefel 2.

Dewisir enillydd ar gyfer pob un o’r wyth categori a bydd un talentog o’r rownd derfynol yn cael ei goroni/choroni fel Prentis Trin Gwallt y Flwyddyn Concept yn gyffredinol.

Yn ychwanegol at y bri a’r profiad a ddaw yn sgil ennill cystadleuaeth genedlaethol, mae gwobrau anhygoel ar gael gan noddwyr y gystadleuaeth L’Oréal Professionnel, Cloud Nine, Wahl, Bettertons, Salons Direct, VTCT a’r ‘Fellowship for British Hairdressing’.

Dywedodd Emily Hilton, ‘Concept Hair Magazine’: “Mae safon y gystadleuaeth wedi bod yn rhagorol, mae’n hyfryd gweld y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol trin gwallt a barbro yn arddangos yr hyn maen nhw’n ei wneud orau. Rydyn ni wrth ein bodd bod rownd derfynol 2020 yn mynd yn ei blaen yn y fformat newydd hwn a fydd yn caniatáu i gystadleuwyr gystadlu’n ddiogel.”

Shopping cart close