Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cyhoeddi Cystadleuwyr Rownd Derfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2024!

Gold Medal in Blue Case

Mae WorldSkills UK wedi cyhoeddi dros 400 o brentisiaid a myfyrwyr dawnus sydd wedi symud ymlaen i’r rowndiau terfynol cenedlaethol. Mae dros 20% o’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y DU yn dod o Gymru, ac mae un ar ddeg o unigolion yn cynrychioli Coleg Sir Benfro:

  • Ymarferydd Therapi Harddwch: Maya Mujica ac Erin Owen.
  • Sgiliau Sylfaen Menter: Ryan Lambert, Denver Pickton a Kirsty Jones.
  • Sgiliau Sylfaen Garddwriaeth: Joel Robbins, Jack Evans a Ross Muller.
  • Sgiliau Sylfaen Cyfryngau: Brett Piggott a Mason Briskham.
  • Weldio: Luke Roberts.

Mae cystadleuwyr wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol yn eu colegau lleol, canolfannau darparwyr hyfforddiant, gweithleoedd, neu ar-lein. Trwy eu perfformiad eithriadol, maent wedi sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK, a gynhelir yn Greater Manchester rhwng 19 a 22 Tachwedd.

Eleni, bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu mewn dros 40 o sgiliau, gan gynnwys disgyblaethau fel Celf Gêm Ddigidol 3D, Gweithgynhyrchu Ychwanegion, Therapi Harddwch, Weldio, a Thirlunio.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK:

“Llongyfarchiadau mawr i gystadleuwyr rownd derfynol cenedlaethol eleni. Dymunwn bob lwc iddyn nhw yn eu hyfforddiant wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Rowndiau Terfynol WorldSkills UK.

Rydym wrth ein bodd i fod yn ôl yn Greater Manchester ar gyfer ein rowndiau terfynol cenedlaethol ym mis Tachwedd ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Awdurdod Cyfun Greater Manchester a’n holl leoliadau cynnal.

Edrychwn ymlaen at groesawu cystadleuwyr a phartneriaid o bob rhan o’r DU i arddangos rhagoriaeth mewn sgiliau technegol a gyrru datblygiad sgiliau o safon fyd-eang ar gyfer pob person ifanc.”

Ychwanegodd Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro:

“Rydw i wrth fy modd unwaith eto bod gan Goleg Sir Benfro nifer o ddysgwyr sydd wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol cenedlaethol World Skills UK ar draws ystod o lwybrau galwedigaethol.

Mae hyn yn adlewyrchiad o’u gwaith caled a’r staff sy’n eu cefnogi ar eu taith gystadlu.

Edrychwn ymlaen at weld y dysgwyr yn cystadlu ym mis Tachwedd a dymunwn bob lwc iddyn nhw.”

Cynhelir y cystadlaethau yn y lleoliadau canlynol yn Greater Manchester:

Bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr yn cael eu hanrhydeddu yn Neuadd Bridgewater, Manceinion ddydd Gwener 22 Tachwedd. Cynhelir y cystadlaethau Sgiliau Sylfaen a’r seremoni fedalau sy’n cyd-fynd â nhw ddydd Gwener 22 Tachwedd, ar Gampws Dinas Coleg Manceinion.

Shopping cart close