Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Consortiwm B-wbl yn Dathlu Llwyddiannau Eithriadol

Haidar (left) and Daniel (right) holding their trophies in front of a silver sparkly background

Ddydd Gwener 7 Mehefin, cynhaliodd Consortiwm B-wbl eu Gwobrau Blynyddol i Ddysgwyr Prentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru+ yng Ngwesty’r Tŵr yn Abertawe. Roedd y digwyddiad yn dathlu llwyddiant eithriadol, ymroddiad, a sgiliau lefel uchel dysgwyr sy’n cwblhau rhaglenni Prentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru+ (TSC+) o fewn Rhwydwaith Darparwyr Consortiwm B-wbl.

Roedd y noson yn gydnabyddiaeth fawreddog o waith caled a chyflawniadau’r dysgwyr, gyda 25 o unigolion rhagorol ar y rhestr fer ar draws naw categori gwahanol. Yr enillwyr ar y noson oedd:

  • Dysgwr Ymgysylltu TSC+ y Flwyddyn: Rebecca Jones (Coleg Sir Gâr)
  • Dysgwr Datblygu TSC+ y Flwyddyn: Megan Elliot (Hyfforddiant PRP)
  • Dysgwr Cyflogadwyedd TSC+ y Flwyddyn (Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig): Cerys Dean (Hyfforddiant PRP)
  • Gwobr Iaith Gymraeg: Katie Topliss (Hyfforddiant TSW)
  • Gowbr Defnydd Ysbrydoledig o’r Gymraeg: Ahmed Abdul Rahim (Hyfforddiant Gofal Cymru)
  • Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Haidar Sharr (Coleg Sir Benfro)
  • Prentis Lefel 3 y Flwyddyn: Gemma Phillips (Hyfforddiant HB)
  • Prentis Uwch y Flwyddyn: Steven Hughes (Hyfforddiant TSW)
  • Talent Yfory: Daniel Goddard (Coleg Sir Benfro)

Mynegodd Haidar Sharr, Prentis Sylfaen y Flwyddyn, ei falchder wrth ennill y wobr, “Roedd yn bleser ac yn anrhydedd derbyn Gwobr B-wbl. Rydw i wedi gwerthfawrogi’n fawr y cyfleoedd addysgol rydw i wedi’u profi yng Nghymru a byddan nhw’n caniatáu i mi roi nôl y croeso rydw i wedi cael drwy gyfrannu at dwf economaidd yr ardal drwy fy rôl fel peiriannydd mewn cwmni gweithgynhyrchu lleol. Rydw i’n dymuno pob llwyddiant i fy nghyd-fyfyrwyr yng Ngholeg Sir Benfro.”

Ymunodd Haidar â’r Coleg o Syria yn 2017 ac wrth gyrraedd, ychydig iawn o Saesneg roedd e’n siarad. Erbyn hyn mae e nawr yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ochr yn ochr â’i brentisiaeth yn Consort yn Aberdaugleddau, mae ganddo ei wasanaeth arlwyo dwyrain canol ei hun y mae’n ei reoli ar y penwythnos.

Mynegodd enillydd Gwobr Talent Yfory, Daniel Goddard, hefyd ei falchder: “Rydw i wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr hon. Mae helpu pobl ifanc i gyflawni eu rhagolygon a’u breuddwydion yn hanfodol ynghyd â chodi eu hunan-barch a’u gwerth a dyna yw fy ffocws erioed. Gobeithio y gallaf i eu hysbrydoli i gyrraedd y nodau hynny a dangos bod unrhyw beth yn bosibl iddyn nhw.”

Roedd y gwobrau yn dyst i ymrwymiad y dysgwyr i’w datblygiad personol a phroffesiynol. Amlygodd y seremoni rôl hollbwysig prentisiaethau a rhaglenni hyfforddi o ran meithrin talent a darparu sgiliau gwerthfawr i’r gweithlu.

“Roedd ail Seremoni Wobrwyo B-wbl yn llwyddiant ysgubol, gan arddangos cyflawniad gwych llawer o ddysgwyr. Mae’r consortiwm yn darparu hyfforddiant i dros 5000 o brentisiaid a hyfforddeion TSC+, wedi’i wasgaru ar draws 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’n ddigwyddiad gwych i gydnabod gwaith y dysgwyr a’r staff a’r gefnogaeth gan deuluoedd a chyflogwyr. Dymunwn bob llwyddiant i’n holl ddysgwyr i’r dyfodol,” meddai Dave Evans, Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Sir Benfro.

 

“Roedd noson Gwobrau B-wbl yn gyfle gwych i glywed am lwyddiannau anhygoel a llwyddiannau ein dysgwyr. Maen nhw i gyd yn ysbrydoliaeth ac yn glod i’w teuluoedd, ffrindiau, cyflogwyr, aseswyr, a darparwyr. Allen ni ddim bod yn fwy balch ohonyn nhw,” ychwanegodd Berni Tyler, Cyfarwyddwr y Consortiwm.

 

“Rydyn ni’n hynod falch o’r holl ddysgwyr sydd wedi dangos ymroddiad a sgil eithriadol trwy gydol eu rhaglenni Prentisiaeth a TSC+,” ychwanegodd llefarydd ar ran Consortiwm B-wbl. “Mae eu cyflawniadau yn adlewyrchiad o’r hyfforddiant a’r gefnogaeth o ansawdd uchel a ddarperir gan ein rhwydwaith, ac rydym yn falch iawn o ddathlu eu llwyddiant.”

Mynychwyd y digwyddiad gan ddysgwyr, eu teuluoedd, darparwyr hyfforddiant, a rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r rhanbarth. Roedd nid yn unig yn ddathliad o gyflawniadau unigol ond hefyd yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr y dyfodol i ymdrechu am ragoriaeth yn eu gweithgareddau addysgol a gyrfaol.

Mae Consortiwm B-wbl yn llongyfarch yr holl enillwyr ac enwebeion ac yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi twf a datblygiad dysgwyr ledled Cymru.

Shopping cart close