Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Peirianneg Fecanyddol

Peirianneg Fecanyddol

Peirianneg Fecanyddol

Diploma BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol | Prosiect Estynedig Lefel 3 CBAC NEU Mathemateg Lefel-A CBAC

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn unrhyw gangen o beirianneg, yn arbennig purfa a storio, y Weinyddiaeth Amddiffyn, prentisiaethau uwch yn y Lluoedd Arfog a’r diwydiannau mecanyddol, yna efallai mai dyma’r cwrs i chi.

MEYSYDD:
DYSGWYR:
ID: 31084

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Bydd dysgwyr fel arfer yn cwblhau Dyfarniad BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol ym mlwyddyn un. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn caniatáu dilyniant i Ddiploma Lefel 3 ym mlwyddyn dau sy’n gyfwerth â dwy Lefel A. Bydd dysgwyr hefyd yn astudio naill ai Project Estynedig Lefel 3 CBAC neu Safon Uwch Mathemateg CBAC (yn amodol ar fodloni gofynion mynediad mathemateg Safon Uwch).

 

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg, Rhifedd a Gwyddoniaeth
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
  • TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd C neu uwch

Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg – Bydd yr uned hon yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o’r peryglon a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a lles mewn gweithle peirianneg, y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cysylltiedig, a’u rolau wrth gydymffurfio â’r rhwymedigaethau cyfreithiol cysylltiedig. Bydd yn ofynnol i ddysgwyr gynnal asesiadau risg llawn a gwerthfawrogi’r risgiau sylweddol a wynebir yn y gweithle a’r mesurau a gymerwyd i ymdrin â nhw. Byddant yn astudio egwyddorion adrodd a chofnodi damweiniau a digwyddiadau, eto o fewn cyd-destun cyfreithiol.
  • Cyfathrebu ar gyfer Technegwyr Peirianneg – Bydd yr uned hon yn rhoi sylfaen ar gyfer cyflogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg (er enghraifft gweithgynhyrchu, cynnal a chadw, technoleg cyfathrebu), yn ogystal â rhoi sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach. Ei nod yw datblygu gallu dysgwyr i gyfathrebu gan ddefnyddio ystod amrywiol o ddulliau. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau gweledol, fel lluniadu a braslunio, a dulliau cyfrifiadurol, fel dylunio dau ddimensiwn (2D) gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) a phecynnau darlunio graffigol. Bydd hefyd yn datblygu gallu dysgwyr i ysgrifennu a siarad mewn fframwaith o weithgareddau sy’n seiliedig ar dechnoleg, gan ddefnyddio iaith dechnegol berthnasol a chywir sy’n briodol i’r dasg a’r gynulleidfa.
  • Mathemateg ar gyfer Technegwyr Peirianneg – Mae’r uned hon yn galluogi dysgwyr i adeiladu ar wybodaeth a enillwyd ar lefel TGAU a’i defnyddio mewn cyd-destun mwy ymarferol ar gyfer eu dewis ddisgyblaeth. Bydd canlyniad dysgu 1 yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o ddulliau algebraidd, o edrych ar y defnydd o indecsau mewn peirianneg i ddefnyddio’r fformiwla algebraidd ar gyfer datrys hafaliadau cwadratig. Mae canlyniad dysgu 2 yn cynnwys cyflwyno’r radian fel dull arall o fesur onglog, siâp y cymarebau trigonometrig a defnyddio fformiwlâu safonol i ddatrys problemau sy’n ymwneud ag arwynebeddau arwyneb a chyfaint solidau rheolaidd. Mae canlyniad dysgu 3 yn gofyn i ddysgwyr gynrychioli data ystadegol mewn amrywiaeth o ffyrdd a chyfrifo’r cymedr, y canolrif a’r modd. Yn olaf, bwriedir canlyniad deilliant dysgu 4 fel cyflwyniad sylfaenol i rifyddeg calcwlws elfennol.
  • Drafftio gyda Chymorth Cyfrifiadur mewn Peirianneg – Bydd yr uned hon yn galluogi dysgwyr i gynhyrchu amrywiaeth o luniadau CAD, o gydrannau 2D un rhan i fodelau 3D cymhleth. Bydd technegau uwch, fel defnyddio symbolau a baratowyd ymlaen llaw i lunio diagramau cylched a lluniadau cydosod, yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau. Bydd dysgwyr yn ymchwilio i’r defnydd o CAD mewn diwydiant, y caledwedd a’r meddalwedd sydd eu hangen a’r cysylltiadau â phecynnau meddalwedd eraill. Wrth wneud hyn, bydd dysgwyr yn gwerthfawrogi manteision CAD dros ddulliau mwy confensiynol o luniadu cynhyrchu. Yn olaf, bydd dysgwyr yn cynhyrchu modelau 3D, yn cymharu â lluniadau CAD 2D ac yn gwerthuso effaith y dechnoleg hon ar gwmnïau gweithgynhyrchu a’u cwsmeriaid.
  • Egwyddorion Mecanyddol Systemau Peirianyddol – Cyflwynir dysgwyr i ymddygiad deunyddiau peirianneg wedi’u llwytho a dadansoddi ystod o systemau peirianneg statig. Byddant yn dod i ddeall systemau deinamig trwy gymhwyso mecaneg Newtonaidd. Yn olaf, byddant yn delio ag effeithiau trosglwyddo gwres, ehangu a chywasgu nwyon ac ymddygiad nodweddiadol hylifau wrth orffwys ac wrth symud.
  • Peirianneg Amgylcheddol a Chynaliadwyedd – Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn dod i ddeall peirianneg amgylcheddol a chynaliadwyedd yn eu sector ac yn ymdrin â dadansoddiadau y gellir eu defnyddio i leihau effaith amgylcheddol proses, cynnyrch neu system beirianyddol.

Yn ogystal â’ch prif raglen byddwch hefyd yn dilyn y rhaglen Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy newydd, sy’n cael ei harwain gan arbenigwyr yn y diwydiant. Mae’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr ehangu eu gwybodaeth, gweithio’n annibynnol a chaffael sgiliau newydd trwy amrywiaeth o weithgareddau a all gynnwys: siaradwyr gwadd, ymweliadau â’r gweithle a phrofiadau ymarferol. Mae’r rhaglen yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i ail flwyddyn lle bydden nhw’n astudio Cymhwyster Prosiect Estynedig (CPA) CBAC – wedi’i raddio fel lefel AS, mae’n gallu darparu pwyntiau UCAS ychwanegol.

Gall fod yn bosibl astudio Lefel-A Mathemateg ochr yn ochr â’r cwrs hwn. Bydd angen i chi fodloni’r gofynion mynediad (mae’r manylion i’w gweld ar daflen wybodaeth y cwrs Lefel-A).

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Arholiad ysgrifenedig
  • Cwblhau prosiect mawr terfynol

Gall y cwrs hwn arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys: Gwneuthurwr Offer, Technegydd Rheoli Ansawdd, Peiriannydd Cynnal a Chadw Mecanyddol, Gwneuthurwr Cyfansoddion, Gwella Peirianneg Cynhyrchu, Peiriannydd Cynhyrchu, Peiriannydd, Peiriannydd Profi Deunyddiau, Dylunydd, CAD Technegydd, Rheolwr Iechyd a Diogelwch, Rheolwr Datblygu Prosiect, Gweithredwr Proses.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Offer lluniadu technegol - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cyfrifiannell wyddonol
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 03/12/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close