Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol

Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol

Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol

Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol

Diploma Estynedig Lefel 3 UAL mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol

Os ydych yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant, bydd y cwrs hwn yn eich arwain trwy bob agwedd ar y broses ddylunio a chynhyrchu, gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol i wireddu canlyniadau terfynol. Mae’r cwrs wedi’i anelu at ddatblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen i ymdopi â swyddi sy’n gofyn llawer ond sy’n rhoi boddhad mawr, a bydd cyfle i chi fod yn rhan o brosiectau byw byr a chystadlaethau.

DYSGWYR:
ID: 13055

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Bydd y cwrs hwn yn darparu’r rhai sydd â diddordeb mewn dylunio, animeiddio, cyfryngau a chymwysiadau rhyngweithiol â’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn rhan o’r diwydiannau creadigol sy’n ehangu’n gyflym.

Mae gan y cwrs gysylltiadau â chyflogwyr lleol a chenedlaethol ym meysydd y cyfryngau, dylunio, hysbysebu a datblygu gwe. Mae prosiectau byr byw, ymweliadau â stiwdios, cymryd rhan mewn cynadleddau a chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith i gyd yn rhan o’r cwrs, a byddwch yn cael cipolwg uniongyrchol ar yr opsiynau dilyniant sydd ar gael yn y diwydiant cyfryngau creadigol.

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
  • Bydd angen dod â phortffolio/enghreifftiau o waith ar gyfer y cwrs hwn
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
  • TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch

Wedi’u cyflwyno dan y corff dyfarnu University Arts London, bydd ein Diplomâu Estynedig Lefel 3 yn rhoi’r un pwyntiau mynediad UCAS i chi â 3 chymhwyster Lefel-A.

Mae’r Diploma Estynedig yn cynnwys prosiectau fel:

  • Animeiddio 2D a 3D
  • Gwneud ffilmiau dogfen a naratif
  • Golygu Fideo a Sain
  • Cynhyrchu podlediadau
  • Egwyddorion a chymwysiadau cyfryngau cymdeithasol
  • Dylunio gwefan ac ap
  • Delweddu cysyniad a 3D ar gyfer animeiddio, hapchwarae a ffilm

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu:

  • Gwybodaeth am gysyniadau sylfaenol y broses ddylunio
  • Sgiliau meddalwedd cyfrifiadurol
  • Dealltwriaeth o agweddau damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol animeiddio a gwneud ffilmiau
  • Sgiliau cyfathrebu gweledol trwy gyfryngau fel ffotograffiaeth, delwedd symudol, lluniadu digidol a graffeg symud

Disgwyliwch hefyd:

  • Gymryd rhan mewn prosiectau a chystadlaethau byr byw
  • Creu dyddlyfrau digidol yn cofnodi ac yn myfyrio ar ddatblygiad eich gwaith
  • Datblygu syniadau creadigol
  • Ysgrifennu gwerthusiadau beirniadol o’ch ymarfer creadigol eich hun ac eraill
  • Astudio dyluniad hanesyddol a chyfoes i lywio eich ymarfer eich hun
  • Cysylltu â chyflogwyr trwy weithgareddau creadigol ac ymweliadau

Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn dysgu trwy arddangosiadau ymarferol a darlithoedd yn ogystal ag aseiniadau seiliedig ar waith a phrosiectau ymchwil.

Yn ystod yr ail flwyddyn bydd dysgwyr yn astudio Cymhwyster Prosiect Estynedig (CPA) CBAC – wedi’i raddio fel lefel AS, gall ddarparu pwyntiau UCAS ychwanegol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Cwblhau prosiect mawr terfynol

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Hysbysebu, Dylunio Gwefannau, Animeiddio, Ffilm a Theledu, Effeithiau Gweledol, Marchnata Digidol a Dylunio Gemau.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cais i brifysgol i astudio ystod eang o raglenni lefel gradd sy’n ymwneud â’r celfyddydau creadigol. Fel arall, byddwch wedi ennill y sgiliau sydd eu hangen i chwilio am waith ar lefel iau mewn maes cysylltiedig.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy
  • Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy celf o £70 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 19/02/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close