Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Profiad Anifeiliaid Anwes Ecsotig

Aberystwyth University John Burns Centre

Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio â Chanolfan Ddysgu John Burns

Yn ddiweddar croesawodd Coleg Sir Benfro 48 o fyfyrwyr BVSc Gwyddor Filfeddygol Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o Brifysgol Aberystwyth i Ganolfan Ddysgu John Burns gyda’r Athro Darrell Abernethy a Dr Sharon King.

Cymerodd y myfyrwyr ran mewn cyfuniad o ddysgu seiliedig ar theori a thrin a thrafod ymarferol. Fe wnaeth staff Rheoli Anifeiliaid Ginny a Russ Spenceley ddarparu cipolwg i’r myfyrwyr ar les, hwsmonaeth a thrin amrywiaeth eang o rywogaethau gyda rhai myfyrwyr yn trin pryfed a nadroedd am y tro cyntaf!

Dywedodd Ginny a Russ Spenceley: “Roedd yn brofiad dwy ffordd gwerth chweil. Rydyn ni’n gobeithio bod y myfyrwyr milfeddygol wedi dysgu llawer ac wedi cael profiadau ymarferol newydd ond i ni, roedd yn ddiddorol iawn ac yn addysgiadol i edrych ar y pwnc o safbwynt milfeddygol. Fe ddysgodd pawb rywbeth!”

Mynegodd yr Athro Abernethy ei werthfawrogiad o’r cyfle i ymweld â Chanolfan John Burns: “Ro’n ni wrth ein bodd gyda’r cyfle i ddefnyddio cyfleuster Coleg Sir Benfro gyda’i amrywiaeth o anifeiliaid anwes egsotig, staff hynod gymwys a chyfleusterau rhagorol. Dw i’n sicr mai dyma ddechrau cydweithrediad a fydd o fudd i’r ddau sefydliad.”

Bydd yr ymweliad yn ehangu ymhellach gyfleoedd cydweithredol cyffrous rhwng y brifysgol a’r coleg o fewn y sector gofal anifeiliaid ac yn ehangu cwmpas gwybodaeth a sgiliau ar gyfer dysgwyr.

Diolch i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, ochr yn ochr â’n staff am wneud y sesiynau’n llwyddiant ysgubol!

Dysgwch fwy am Rheoli Anifeiliaid

Shopping cart close