Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cartrefi Draenog Hapus

Mae prosiect gan Goleg Sir Benfro i ddylunio, gwneud, lleoli a monitro’r defnydd o gartrefi draenogod ar ardal o goetir wedi derbyn cyllid gan Undeb Addysg Cenedlaethol Sir Benfro.

Ar dir prif gampws y Coleg yn Hwlffordd, nodwyd ardal fechan o goetir fel y man perffaith i gynyddu bioamrywiaeth ar y campws.

Gwnaed arolwg safle a gwelwyd bod sylfaen dda o fioamrywiaeth eisoes yn bodoli gyda’i strwythur eco hunangynhaliol ei hun. Argymhellwyd y gellid gwella’r fioamrywiaeth ymhellach trwy osod mesurau cadwraeth, yn cynnwys cynnal amgylchedd addas ar gyfer rhywogaethau adar sydd dan fygythiad ac annog twf yn niferoedd draenogod.

Ar ôl dal Tystysgrif Amgylcheddol y Ddraig Werdd am fwy na degawd, roedd y Coleg yn awyddus i dderbyn yr argymhellion hyn a mynd ati i gefnogi’r amgylchedd ffisegol yn lleol ac mewn cyd-destun ehangach.

Gyda nifer o staff y Coleg eisoes yn ymwneud â Hogspital Sir Benfro, a myfyrwyr yr Academi Sgiliau Bywyd a Rheoli Anifeiliaid yn awyddus i ddysgu mwy am y rhywogaeth hon, teimlwyd bod hwn yn cydweddu’n berffaith.

Mae’r prosiect bioarallgyfeirio yn gyfle gwych i ddatblygu addysg dysgwyr; meithrin eu gwybodaeth am gylchredau bywyd draenogod a’r math o amgylchedd sydd ei angen arnynt; rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu eu sgiliau gydag offer llaw; a darparu adnodd dysgu ar gyfer arsylwi a monitro twf niferoedd draenogod yn y coetir a gerllaw, gan gyfrannu ar yr un pryd at gampws mwy bioamrywiol.

Mae gweithgor eisoes wedi’i sefydlu gyda’r nod o ennill gwobr Efydd y cynllun ‘Campws Cyfeillgar i Ddraenogod’ a achredir gan Gymdeithas Cadwraeth Draenogod Prydain cyn anelu at y gwobrau Arian ac Aur.

Shopping cart close