Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Dragon LNG yn helpu dysgwyr i gael gwell cysylltiadau

Cynhaliodd Biwro Cyflogaeth y Coleg eu chweched Digwyddiad Cinio i Gyflogwyr ddydd Mercher 4 Mai 2022. Rhoddodd y digwyddiad, a noddwyd gan Dragon LNG, gyfle i 21 o ddysgwyr o amrywiaeth o gyrsiau peirianneg gwrdd â chyflogwyr dros ginio ym Mwyty ‘SEED’ y Coleg sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr. Diolch o galon i bawb a gymerodd ran.

Roedd cynrychiolwyr cwmni o Le Breton Engineering Limited, BTG Specialty Pharmaceuticals, Ledwood Mechanical Engineering Limited a Mainstay Marine Solutions yn bresennol. Cafodd pob un gyfle i siarad am sut beth yw gweithio yn eu diwydiant ac i drafod yr opsiynau gyrfa/swyddi gweigion sy’n gysylltiedig â pheirianneg i ddysgwyr eu hystyried ar ôl cwblhau eu cwrs.

Roedd adborth o’r diwrnod yn cynnwys:
“Rwy’n meddwl ei fod yn syniad gwych ac wedi’i drefnu’n dda. Rhoddodd gipolwg gwych i mi ar lawer o gwmnïau a rhoddodd ystod eang o gyfleoedd i mi eu hystyried.”
“Roedd heddiw yn ddiddorol iawn. Roedd yn rhyngweithiol iawn gan fy mod yn gallu siarad â chyflogwyr yn bersonol.”
“Fel cwmni fe wnaethon ni fwynhau’r ymgysylltu â Choleg Sir Benfro a’r ddysgwyr.”
“Sesiwn wych, gwych gweld y genhedlaeth nesaf yn dod drwodd.”

Ychwanegodd Karen Wood, Rheolwr Rhanddeiliaid a Chyfathrebu Dragon LNG: “Diolch unwaith eto i dîm y Biwro Cyflogaeth yng Ngholeg Sir Benfro am ddigwyddiad gwych. Mae’r cinio cyflogwr/myfyriwr wir wedi profi ei fod yn gysyniad gwych o ran darparu cysylltiadau myfyrwyr a chyflogwyr, gyda phawb yn gadael wedi dysgu rhywbeth. Mae’n wych ein bod yn gallu cefnogi’r achlysuron hwylus hyn eto, ac edrychwn ymlaen at fwy o gyfleoedd yn ystod y flwyddyn academaidd”.

Dywedodd Danielle Bond, Rheolwr Cyflogadwyedd yng Ngholeg Sir Benfro, “Roedd Coleg Sir Benfro yn falch iawn o gynnal ei chweched cinio cyflogwr/myfyriwr a noddir gan Dragon LNG. Roedd yn wych gallu cael digwyddiad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ar ôl Covid. Roedd y cinio yn gyfle gwych i fyfyrwyr siarad ag ystod o gyflogwyr am weithio ym meysydd peirianneg. Mae digwyddiadau fel hyn ond yn gweithio gyda chefnogaeth y cyflogwyr felly rydym yn hynod ddiolchgar i Le Breton Engineering Limited, BTG Specialty Pharmaceuticals, Ledwood Mechanical Engineering Limited a Mainstay Marine Solutions am eu hamser a’u cefnogaeth”.

Mae Biwro Cyflogaeth y Coleg, a drefnodd y digwyddiad, yn wasanaeth recriwtio dysgwyr a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Mae tîm y Biwro Cyflogaeth yn helpu dysgwyr y Coleg i ysgrifennu CV, sgiliau cyfweliad, lleoliadau profiad gwaith a hefyd yn cynnig gwasanaeth recriwtio am ddim i gyflogwyr sydd am hyrwyddo eu swyddi gwag i ddysgwyr.

Os ydych yn gyflogwr sydd â diddordeb mewn defnyddio’r Gwasanaeth Recriwtio rhad ac am ddim, yna cysylltwch â Jennifer Dyer, Ymgynghorydd Cyflogadwyedd ar 01437 753463 neu e-bostiwch recruit@pembrokeshire.ac.uk

Shopping cart close