Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

CLICIO I LWYDDIANT

Jake at Sheffield United

Mae Jake Aldred, cyn ddysgwr Cyfryngau Creadigol Lefel 3, wedi lansio ei fusnes creadigol ei hun yn llwyddiannus – Jake Aldred Media, yn arbenigo mewn gwasanaethau ffotograffiaeth a fideograffeg. Gyda ffocws arbennig ar y diwydiant priodasau, mae angerdd Jake dros gipio eiliadau pwysicaf bywyd wedi gosod ei frand yn gyflym fel enw dibynadwy ar gyfer cyplau sy’n chwilio am gynnwys gweledol proffesiynol o ansawdd uchel.

Mae arbenigedd Jake, a ddechreuodd gyda’i addysg yn y Cyfryngau Creadigol, wedi ymestyn y tu hwnt i briodasau gyda’i bortffolio yn cynnwys digwyddiadau mawreddog fel cystadlaethau Ironman, Sioe Sir Benfro, Saundersfoot Fest, a deunydd hyrwyddo proffil uchel gydag Ymddiriedolaeth y Fonesig Kelly Holmes a Thîm Pêl-rwyd Merched Dreigiau Caerdydd ac S4C. Mae ei set sgiliau deinamig hefyd yn cynnwys darparu gwasanaethau fideograffeg a ffotograffiaeth ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth fyw, gan roi cyfle iddo arddangos ystod eang o dalentau mewn diwydiannau amrywiol.

Wrth lansio Jake Aldred Media, gweledigaeth Jake yw cynnig gwasanaethau unigryw, proffesiynol a phersonol i gleientiaid sydd am anfarwoli eiliadau arwyddocaol yn eu bywydau. Mae ei allu i gyfuno gweledigaeth greadigol ag arbenigedd technegol yn caniatâu iddo gyflwyno delweddau syfrdanol sy’n apelio at gleientiaid, boed ar gyfer priodas, digwyddiad byw neu achlysur corfforaethol.

“Dw i’n hynod gyffrous i gymryd y cam nesaf hwn ac adeiladu rhywbeth fy hun,” meddai Jake. “Astudiais i’r cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3 yng Ngholeg Sir Benfro. Helpodd y cwrs fi i ddatblygu llawer o fy sgiliau sylfaenol ar gyfer bod yn fideograffydd a ffotograffydd a dechreuais i wneud rhywfaint o waith cyfryngau cymdeithasol i fusnesau lleol ac yna fe wnaeth hyn fy ngalluogi i symud ymlaen i wneud fy mhriodas gyntaf tra’n astudio. Roedd fy nhiwtor Denys yn help mawr, a ddeallodd nad o’n i am fynd i’r brifysgol ac yn lle hynny roedd yn gwybod fy mod i eisiau bod yn llawrydd a meithrin cysylltiadau. Fe wnaeth Denys hefyd fy helpu i gysylltu â’r bobl iawn yn y Coleg fel y Tîm Menter lle gwnaethon nhw fy rhoi mewn cysylltiad â’r cyngor lleol a fy helpu i sicrhau rhywfaint o arian ar gyfer fy musnes.”

Mae Jake Aldred Media yn prysur ennill cydnabyddiaeth yn y diwydiant priodasau am ei sylw rhagorol i fanylion, ei agwedd greadigol, a’i allu i ddal emosiwn. Mae pob prosiect, boed yn briodas, yn ddigwyddiad Ironman, neu’n ŵyl gymunedol, yn cael ei drin ag ymroddiad a dealltwriaeth ddofn o adrodd straeon trwy gynnwys gweledol.

I gael rhagor o wybodaeth am Jake Aldred Media ac i archebu gwasanaethau, ewch i jakealdred.media@gmail.com

I ddarganfod mwy am y cyrsiau creadigol a gynigir yn y Coleg ewch i: www.colegsirbenfro.ac.uk

Shopping cart close