Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Perfformiad a Chynhyrchu

Diploma Lefel 2 UAL mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 2 - Canolradd

Ardaloedd:
ID y Cwrs: 58389

Wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sydd eisiau perfformio, gweithio y tu ôl i’r llwyfan, neu gymryd rhan mewn cynhyrchu o fewn y diwydiant celfyddydau dramatig neu gerddoriaeth.

llwyfan gyda sbotoleuadau ac effeithiau mwg

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno dysgwyr i natur gydweithredol perfformio a chynhyrchu ynghyd â’r dulliau, y prosesau a’r sgiliau i feithrin ymwybyddiaeth ymarferol a phroffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gwaith yn y sector creadigol.

Bydd dysgwyr yn cwblhau aseiniadau yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig ac yn dysgu gweithio ar y cyd ar draws disgyblaethau perfformio, cynhyrchu a cherddoriaeth. Yn ogystal, bydd y gallu i weithio’n broffesiynol gydag eraill ar brosiectau amser-gyfyngedig yn cael ei ddatblygu, yn ogystal â chryfhau sgiliau mewn recordio, myfyrio ac ymgysylltu â dysgu.

  • Tri chymhwyster TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys SaesnegIaith/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg
  • Tystiolaeth o gyfranogiad diweddar yn y celfyddydau perfformio
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd D neu uwch
  • Neu dystiolaeth o welliant o TGAU/au mewnol
  • Tystiolaeth o gyfranogiad diweddar yn y celfyddydau perfformio

Bydd unedau yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i berfformio
  • Cyflwyniad i gynhyrchu
  • Cyfathrebu â chynulleidfa
  • Llwyfannu perfformiad
  • Ymchwil gyd-destunol ar gyfer perfformio a chynhyrchu
  • Sgiliau ac ymarfer perfformio
  • Sgiliau ac ymarfer cynhyrchu
  • Prosiect a chyflwyniad personol
  • Cynhyrchu a pherfformio i gynulleidfa

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Byddai’n fuddiol, ond ddim yn hanfodol, dod â’ch dyfais/gliniadur eich hun i gefnogi eich astudiaethau
  • Dillad ymarferol/cysurus ar gyfer rhannau o'r cwrs
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
  • Plygiau clust - £20
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy celfyddyd cynhyrchu o £40 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 17/03/2026
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close