Amaethyddiaeth
															Amaethyddiaeth
Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Amaethyddiaeth
Mae’r cymhwyster amaethyddiaeth hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn ffermio neu reoli fferm, boed yn gwbl newydd i amaethyddiaeth neu’n adeiladu ar wybodaeth a sgiliau presennol.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Cynhelir y cwrs bedwar diwrnod yr wythnos, gyda chymysgedd o sesiynau dosbarth, dysgu ymarferol, teithiau maes a siaradwyr gwadd. Bydd sesiynau ymarferol amaethyddol yn cael eu cynnal yn Willhome Farm Barn neu Fferm Folly, yn ogystal â ffermydd lleol eraill a busnesau tir i archwilio amrywiaeth o systemau ffermio. Rhowch hwb pellach i’ch cyflogadwyedd trwy ddilyn cyrsiau ychwanegol fel hyfforddiant telehandler ac ATV, ynghyd ag ardystiadau sgiliau seiliedig ar anifeiliaid.
					 Beth yw'r gofynion mynediad? 
							
			
			
		
						
				- lefel3osn
 - teilyngdod
 - cyfweliad
 
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
					 Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad? 
							
			
			
		
						
				- Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
 
					 Beth fydda i'n ei ddysgu? 
							
			
			
		
						
				Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Rheoli busnes
 - Cynhyrchu da byw amaethyddol a hwsmonaeth
 - Sgiliau ystâd
 - Deall a hybu iechyd a maeth anifeiliaid
 - Rheoli cynefinoedd fferm
 - Cynhyrchu llaeth, cig eidion, moch a defaid
 
Unedau Gorfodol:
- Profiad cysylltiedig â gwaith yn y diwydiannau tir
Busnes amgylcheddol a diwydiannau’r tir 
Bydd dysgwyr hefyd yn meithrin sgiliau gwerthfawr mewn datrys problemau, meddwl yn feirniadol, cyfathrebu, a gwaith tîm – galluoedd y gellir eu cymhwyso mewn ystod eang o sefyllfaoedd.
					 A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol? 
							
			
			
		
						
				Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
 - pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
 
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
					 Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg? 
							
			
			
		
						
				Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
					 Sut y byddaf yn cael fy asesu? 
							
			
			
		
						
				- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
 - Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
 - Portffolio o dystiolaeth
 
					 Beth alla i ei wneud nesaf? 
							
			
			
		
						
				Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: gweithiwr fferm, rheolwr fferm, contractwr fferm neu hunangyflogaeth.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
					 Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer? 
							
			
			
		
						
				- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
 - Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
 - Dillad ymarferol/cysurus ar gyfer rhannau o'r cwrs
 - Argymhellir bod eich brechiad Tetanws ac unrhyw frechiadau priodol eraill yn gyfredol cyn dechrau gweithio gydag anifeiliaid neu yng nghefn gwlad
 - Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
 
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
					 A oes unrhyw gostau ychwanegol? 
							
			
			
		
						
				- Dim ffi dysgu
 - Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy amaethyddiaeth o £35 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
 - Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
 
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Hyd: | 
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
								
                        
                        