Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Leadership & Management Course

Dyfarniad ILM Lefel 3 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (8600)

Enillwch ystod o sgiliau rheoli allweddol a’u rhoi ar waith yn eich rôl eich hun.

SKU: 1115F7311
MEYSYDD:
ID: 51637

£325.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Dros gyfnod o wyth wythnos, bydd rhaglen y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) hon yn yr ystafell ddosbarth yn canolbwyntio ar ddiweddaru arweinwyr tîm, goruchwylwyr a rheolwyr presennol neu ddarpar arweinwyr tîm, goruchwylwyr a rheolwyr ar dechnegau ac arferion rheoli.

Wedi’i arwain gan ddau reolwr profiadol, bydd y cwrs yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor ymarferol ar strategaethau rheoli i sicrhau perfformiad gorau unigolion a thimau yn y gweithle. Mae’r dull cyfarwyddiadol yn annog cyfranogwyr i ddatblygu arddull rheoli adfyfyriol, gan ystyried nid yn unig nodau sefydliadol ond hefyd eu lles eu hunain a’u timau.

  • Good personal presentation and communication skills are required
  • Each application is considered on individual merit
  • Learners must be at least 16 years old

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Datrys problemau a thechnegau gwneud penderfyniadau
  • Rheoli arloesedd a newid mewn sefydliad
  • Rheoli gwrthdaro yn y gweithle
  • Rheoli a chefnogi lleihau straen yn y gweithle

Themâu a fydd hefyd yn cael eu trafod yn y cwrs hwn yw rheoli perfformiad, hyfforddi a mentora, iechyd a lles, iechyd a diogelwch, cael y gorau o’ch timau, dynameg tîm ac yn bwysicaf oll, strategaethau cyfathrebu effeithiol.

Bydd angen o leiaf 4 credyd arnoch i ennill y cymhwyster.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Portfolio of evidence

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau ILM pellach, gan gynnwys cymhwyster Lefel 4.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.

  • No additional equipment required

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Dyddiad y Cwrs:

Dim dyddiadau ar gael

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 26/02/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close