Athroniaeth, Moeseg, Credoau a Gwerthoedd
Athroniaeth, Moeseg, Credoau a Gwerthoedd
Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch CBAC
Datblygu gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gredoau a dysgeidiaethau crefyddol, yn ogystal â disgyblaethau moeseg ac athroniaeth crefydd.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu gwerthfawrogiad o feddylfryd crefyddol sy’n cyfrannu at unigolion, cymunedau a chymdeithasau. Bydd hyn oll yn helpu i ddatblygu eich diddordeb mewn astudiaeth drylwyr o athroniaeth ochr yn ochr â chredoau a gwerthoedd heddiw a’i berthnasu i’r byd ehangach yn ogystal â datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth sy’n briodol i astudiaeth arbenigol o grefydd.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg
- Astudiaethau Crefyddol gradd B a gradd B Saesneg Iaith/Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cymhwyster yn cynnwys ystod eang o bynciau i’w hystyried gan gynnwys:
- Athroniaeth – edrych ar ddadleuon fel bodolaeth Duw, bodolaeth drygioni a dioddefaint, iaith a’r cwestiynau y mae’n eu codi fel beth a olygir gan dda a drwg, ystyr iaith o fewn crefydd, a symbolaeth.
- Moeseg – meithrin gwybodaeth am wahanol fathau o foeseg fel Iwtilitariaeth, Moeseg Sefyllfaoedd, Cyfraith Foesol Naturiol, Damcaniaeth Gorchymyn Dwyfol ac yna gallu rhoi’r rhain ar waith mewn sefyllfaoedd fel perthnasoedd amryfal, cyfunrywioldeb, arfau niwclear fel ataliaeth, a’r gosb eithaf.
- Bwdhaeth – astudiaeth fanwl ac eang o un o chwe phrif grefydd y byd; sefydlu cysyniadau allweddol y grefydd, datblygiad o fewn Prydain, ymagweddau tuag at ffeministiaeth, gwyddoniaeth, ymwybyddiaeth ofalgar, Bwdhyddion sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol a llawer o bynciau eraill hefyd.
Drwy gydol y cwrs hwn bydd gofyn i chi fabwysiadu ymagwedd ymholgar, feirniadol ac adfyfyriol a datblygu eich gwerthoedd, barn ac agweddau eich hun yng ngoleuni eich astudiaethau.
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Athro/Athrawes Addysg Bellach, Darlithydd Addysg Uwch, Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd, Bargyfreithiwr, Caplan, Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil, Rheolwr Gwasanaeth Iechyd, Swyddog Llywodraeth Leol, Swyddog Gweithredol Marchnata, Newyddiadurwr Papur Newydd, Paragyfreithiol, Swyddog Polisi, Seicotherapydd, Ymgynghorydd Recriwtio, Cyfreithiwr, Brocer Stoc.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Modd: | |
|---|---|
| Lefel: | |
| Duration: | 2 flynedd |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
