Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Bioleg – TGAU

Bioleg – TGAU

Bioleg - TGAU

TGAU CBAC mewn Bioleg

Mae digon o resymau pam y gallech fod am astudio TGAU Bioleg; boed hynny i gael gwell cymwysterau ar gyfer addysg uwch, creu mwy o lwybrau ar gyfer gyrfa, neu’n syml ar gyfer hunan-wella – mae sefyll eich TGAU fel oedolyn bob amser yn ffordd wych o ennill sgiliau newydd a hybu’ch CV.

Gall fod yn gymwys i gael gostyngiad sylweddol o dan 19 oed, a dim ond 20% o ffi’r cwrs y byddwch yn ei dalu – cysylltwch â ni i archebu eich lle ar 0800 9 776 778

SKU: 1302N7311
ID: 39128

Fees are per academic year, subject to change

£200.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Wedi’i greu i ysbrydoli a herio dysgwyr o bob gallu, ei nod yw eich helpu i ddatblygu eich chwilfrydedd am fyd natur. Rhoi cipolwg i chi ar sut mae gwyddoniaeth yn gweithio a gwerthfawrogiad o’r ffyrdd y mae’n berthnasol i’ch bywyd bob dydd.

Sylwch fod angen gwerslyfr TGAU Bioleg CBAC ar gyfer y cwrs hwn, gellir ei brynu ar-lein, yn ail law neu ei fenthyg o’r llyfrgell.

Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un noson yr wythnos, am 33 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi.

  • No formal entry requirements
  • Each application is considered on individual merit

Byddwch yn astudio ystod eang o bynciau, wedi’u cynllunio i ddangos eich dealltwriaeth, eich cymhwysiad a’ch dadansoddiad o syniadau, technegau a gweithdrefnau gwyddonol.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Ecosystemau, effaith ddynol ar yr amgylchedd
  • Dosbarthiad a bioamrywiaeth
  • DNA ac etifeddiaeth
  • Amrywiad ac esblygiad
  • Homeostasis
  • Micro-organebau a chlefydau

Byddwch hefyd yn gwneud amrywiaeth o waith ymarferol a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o bob pwnc ac yn datblygu eich sgiliau meddwl a dadansoddi gwyddonol.

Enghreifftiau o ymchwiliadau ymarferol:

  • Microsgopeg
  • Ymchwilio i weithred ensymau
  • Ymchwilio i amrywiad mewn organebau
  • Dyraniad
  • Dadansoddi effaith gwrthfiotigau ar dyfiant bacteriol
  • Ymchwilio i gynnwys egni bwydydd

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Practical examination
  • Written examination

Mynediad i Wyddoniaeth Lefel-A, i helpu i fodloni gofynion rhai cyrsiau lefel gradd.

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • Text books - you will be told about any specific items before you start the course, most text books are available to loan from the college library or online libraries

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Dyddiad y Cwrs:

Dim dyddiadau ar gael

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 23/01/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close