Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Chwaraeon ac Arweinyddiaeth

Diploma Lefel 2 OCR mewn Arwain Chwaraeon a Gweithgareddau

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 2 - Canolradd

ID y Cwrs: 52053

Os ydych yn llawn cymhelliant, yn allblyg ac yn mwynhau ymarfer corff, yna dyma’r cwrs i chi.

Chwaraeon ac Arweinyddiaeth

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae hwn yn gwrs gwych i unigolion sydd am ddilyn gyrfa ym maes chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus, a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig ag iechyd a gweithgaredd corfforol.

Mae’r rhaglen flwyddyn hon yn ymchwilio i theori chwaraeon, gwaith tîm ac arweinyddiaeth a bydd yn rhoi gwybodaeth hanfodol i chi am y byd chwaraeon, gweithio gydag eraill, ymarfer corff a gweithgarwch corfforol.

Bydd yr Academïau Gwasanaethau Amddiffyn a Chwaraeon mewn pêl-droed, rygbi a chwaraeon merched yn cael eu hastudio ochr yn ochr â’r cwrs hwn. Bydd disgwyl i bob dysgwr gymryd rhan a chyfrannu at un o’r academïau chwaraeon a drefnir gan y Coleg. Bydd y profiad o gaffael sgiliau ychwanegol, dadansoddi perfformiad a moeseg tîm yn gwella dealltwriaeth dysgwyr ymhellach o ddeinameg grŵp sydd o fudd iddynt yn eu cyflogaeth yn y dyfodol.

  • Three GCSEs at grade D or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh or Mathematics/Numeracy
  • Should demonstrate a keen interest in physical activity and be physically fit
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course information session or informal interview

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Profi ffitrwydd a hyfforddiant
  • Perfformiad chwaraeon ymarferol
  • Maeth ar gyfer perfformiad chwaraeon
  • Anatomeg a ffisioleg ar gyfer chwaraeon
  • Datblygu ffitrwydd personol
  • Cynllunio ac arwain gweithgareddau chwaraeon
  • Effeithiau ymarfer corff ar systemau’r corff
  • Anaf mewn chwaraeon
  • Cymorth Cyntaf
  • Lefel 1 Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon

Bydd gofyn i chi fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o’r rhaglen hon.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Practical assessment during the course
  • Portfolio of evidence

Mae cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant chwaraeon yn cynnwys: Hyfforddwr Personol, Maethegydd, Hyfforddwr Campfa, Therapydd Chwaraeon, Hyfforddwr Ffitrwydd, Gwyddonydd Chwaraeon, Milwrol e.e. y Fyddin, y Llynges neu’r Awyrlu Brenhinol, Datblygu Chwaraeon, Athro/Athrawes Addysg Gorfforol, Datblygu Pêl-droed, Heddlu, Rheolwr Datblygu , Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol, Rheolwr Adnabod Talent, Gwasanaethau Ambiwlans, Adsefydlwr Chwaraeon, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Ffisiotherapydd Chwaraeon, Dyfarnwr, Hyfforddwr Sgïo, Hyfforddwr Antur Awyr Agored, Dadansoddwr Perfformiad neu unrhyw Wasanaeth Amddiffyn/Cyhoeddus arall.

[text-blocks id=”default-progression-text”]

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
  • Practical/comfortable clothing for parts of the course
  • Football Academy kit - £160 (if applicable)
  • Rugby Academy kit - £120 (if applicable)
  • Female Academy kit - £110 (if applicable)
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • No tuition fee
  • We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
  • You will need to pay a £60 fitness facility fee each year before you start the course
  • Specific sports kits (£110 - £160) payable before you start the course
  • There may be trips/expeditions required or optional as part of this course
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 29/06/2022
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close