Cwyro Personol i Fenywod
Cwyro Personol i Fenywod
Tystysgrif ABT mewn Cwyro Rhannau Personol i Ferched
Ar gyfer therapyddion cymwysedig sydd am wella eu sgiliau cwyro, bydd y cwrs hwn yn darparu’r arbenigedd i ddarparu gwasanaeth proffesiynol i gleientiaid.
£125.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i arfogi dysgwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i berfformio triniaethau cwyro personol proffesiynol ar gleientiaid benywaidd. O dechnegau cwyro sylfaenol i feysydd personol arbenigol, bydd y ffocws ar theori a chymhwysiad ymarferol gan ganolbwyntio ar feithrin hyder a hyfedredd wrth ddarparu gwasanaethau cwyro o ansawdd uchel.
- Therapi Harddwch Lefel 2 neu gyfwerth
Bydd unedau yn cynnwys:
- Deall anatomeg a ffisioleg y croen a’r gwallt sy’n berthnasol i drin â chwyr
- Dysgu am bwysigrwydd ymgynghori â chleientiaid a chyngor ar ofal ôl-driniaeth
- Meistroli technegau cwyr amrywiol ar gyfer gwahanol rannau personol o’r corff
- Datblygu hyfedredd wrth ddefnyddio gwahanol fathau o gwyr ac offer
- Sicrhau bod safonau hylendid a diogelwch yn cael eu cynnal
- Magu hyder wrth gyflawni triniaethau cwyr ar gyfer rhannau personol menywod
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
- Asesiad mewnol
- Arholiad ymarferol
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif cyflawniad wedi’i hachredu gan ABT (Associated Beauty Therapists). Mae’r ardystiad hwn yn dangos cymhwysedd wrth gyflawni triniaethau cwyr ar gyfer rhannau personol menywod, ac fe’i cydnabyddir o fewn y diwydiant therapi harddwch.
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
- Dim costau ychwanegol

Beth yw'r gofynion mynediad?
- Therapi Harddwch Lefel 2 neu gyfwerth
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd unedau yn cynnwys:
- Deall anatomeg a ffisioleg y croen a’r gwallt sy’n berthnasol i drin â chwyr
- Dysgu am bwysigrwydd ymgynghori â chleientiaid a chyngor ar ofal ôl-driniaeth
- Meistroli technegau cwyr amrywiol ar gyfer gwahanol rannau personol o’r corff
- Datblygu hyfedredd wrth ddefnyddio gwahanol fathau o gwyr ac offer
- Sicrhau bod safonau hylendid a diogelwch yn cael eu cynnal
- Magu hyder wrth gyflawni triniaethau cwyr ar gyfer rhannau personol menywod
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad mewnol
- Arholiad ymarferol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif cyflawniad wedi’i hachredu gan ABT (Associated Beauty Therapists). Mae’r ardystiad hwn yn dangos cymhwysedd wrth gyflawni triniaethau cwyr ar gyfer rhannau personol menywod, ac fe’i cydnabyddir o fewn y diwydiant therapi harddwch.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Dyddiad Cychwyn: | |
| Hyd: |