Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Atgyweirio Adeiladau

Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 2 - Canolradd

ID y Cwrs: 53129

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd am ddilyn gyrfa yn y sector cynnal a chadw adeiladau a gofal adeiladau gan ddarparu sgiliau mewn gwaith brics, addurno, plastro, plymio a gwaith coed.

person using electric screwdriver to attach a hinge

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae marchnad cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau’r DU werth tua £86 biliwn y flwyddyn, gan greu galw mawr am weithwyr proffesiynol medrus mewn meysydd fel gwaith brics, addurno, plastro, plymio, a gwaith coed.

Mae perchnogion adeiladau, cymdeithasau tai, landlordiaid ac awdurdodau lleol wrthi’n chwilio am weithwyr aml-sgil i wneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw bach i ganolig. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r set sgiliau amrywiol sydd ei hangen ar ddysgwyr i fodloni gofynion y diwydiant a sicrhau cyflogaeth yn y sector hwn sy’n tyfu.

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin ag atgyweiriadau ar raddfa fach mewn crefftau amrywiol yn y sector Adeiladu, ar gyfer y crefftau canlynol:

  • Atgyweirio adeiladau (gwaith brics)
  • Atgyweiriadau Peintio ac Addurno
  • Atgyweiriadau plastro
  • Atgyweiriadau plymio
  • Atgyweiriadau gwaith coed

Bydd hyfforddiant yn cael ei gyflwyno gan grefftwyr profiadol mewn gweithdai pwrpasol, gan ddatblygu’r sgiliau llaw a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynhyrchu gorffeniadau proffesiynol.

Mae’r cwrs hefyd yn edrych ar y sgiliau ehangach sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant adeiladu, gan gynnwys cyfathrebu, rhifedd, TG, a datrys problemau – nodweddion allweddol ar gyfer gweithwyr adeiladu proffesiynol heddiw.

Energy Efficiency Association.Logo

Mae’r coleg yn aelod o’r Gymdeithas Effeithlonrwydd Ynni.

  • Tri chymhwyster TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys SaesnegIaith/Llenyddiaeth Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg/Rhifedd
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Dyma’r modiwlau fydd yn cael eu cynnwys:

  • Gwneud atgyweiriadau adeiladau ar raddfa fach.
  • Gwneud atgyweiriadau peintio ac addurno ar raddfa fach.
  • Gwneud atgyweiriadau plastro ar raddfa fach.
  • Gwneud atgyweiriadau plymio ar raddfa fach.
  • Gwneud atgyweiriadau gwaith coed.
  • Iechyd, diogelwch a lles mewn Adeiladu.
  • Egwyddorion Adeiladu Adeiladau, Gwybodaeth a Chyfathrebu.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad mewnol
  • Arholiad ymarferol
  • Arholiad ysgrifenedig
  • Arholiad ar-lein

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus efallai y bydd dysgwyr am symud ymlaen i un o’r llwybrau Cymwysterau Sylfaen Lefel 2 neu Brentisiaeth Lefel 3.

  • Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy adeiladu o £75 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 31/07/2025
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close