Ffrangeg
Ffrangeg
Ffrangeg lefel A CBAC
Mae’r Lefel-A mewn Ffrangeg yn rhoi cyfle diddorol a chyffrous i chi adeiladu ar eich astudiaeth flaenorol o Ffrangeg.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Trwy themâu cymdeithasol, deallusol a diwylliannol byddwch yn gallu datblygu eich gwybodaeth ieithyddol a’ch dealltwriaeth ddiwylliannol o’r gwledydd neu’r cymunedau lle siaredir yr iaith.
Bydd cyfle i astudio llenyddiaeth a ffilm hefyd yn caniatáu i chi wneud dadansoddiad dyfnach o strwythurau iaith a chynyddu eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol fel rhan o ddull integredig o ddysgu iaith.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg
- Ffrangeg B a Saesneg Iaith/Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd B
- Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Rhoddir ffocws cryf ar feithrin eich hyder a’ch rhuglder mewn Ffrangeg llafar gan ddefnyddio themâu perthnasol ac amserol. Mae’r gofyniad i ymchwilio i faes o ddiddordeb personol sy’n ymwneud â’r wlad neu’r gwledydd lle siaredir Ffrangeg yn anelu at wella eich gwerthfawrogiad diwylliannol a’ch galluogi i ddod yn fwy ymwybodol o wahaniaethau rhyngddiwylliannol.
Byddwch yn cael eich annog i:
- gwella eich sgiliau ieithyddol a hybu a datblygu eich gallu i feddwl yn feirniadol ar sail eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o iaith, diwylliant a chymdeithas y gwledydd neu gymunedau lle siaredir yr iaith
- datblygu rheolaeth ar y system iaith i gyfleu ystyr, gan ddefnyddio sgiliau llafar ac ysgrifenedig, gan gynnwys ystod estynedig o eirfa, at ddibenion ymarferol a deallusol fel defnyddwyr cynyddol hyderus, cywir ac annibynnol yr iaith
- datblygu eich gallu i ryngweithio’n effeithiol â defnyddwyr yr iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan gynnwys trwy gyfryngau ar-lein
- datblygu sgiliau a strategaethau dysgu iaith, gan gynnwys strategaethau cyfathrebu i gynnal cyfathrebu a meithrin rhuglder a hyder
- ymgysylltu’n feirniadol â thestunau, ffilmiau a deunyddiau eraill ysgogol yn ddeallusol yn yr iaith wreiddiol, gan ddatblygu gwerthfawrogiad o ddefnyddiau soffistigedig a chreadigol o’r iaith a’u deall o fewn eich cyd-destun diwylliannol a chymdeithasol
- datblygu gwybodaeth am faterion sy’n ganolog i gymdeithas a diwylliant, ddoe a heddiw, y gwledydd neu’r cymunedau lle siaredir yr iaith
- cyfryngu rhwng diwylliannau a rhwng siaradwyr yr iaith a siaradwyr Cymraeg/Saesneg
- meithrin eich gallu i ddysgu ieithoedd eraill
- arfogi eich hun â sgiliau trosglwyddadwy fel ymreolaeth, dyfeisgarwch, creadigrwydd, meddwl beirniadol, a hyblygrwydd ieithyddol, diwylliannol a gwybyddol a fydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i astudio ymhellach neu i gyflogaeth
- develop your capacity for critical and analytical thinking through the language of study
- datblygu fel ymchwilydd annibynnol trwy gyfrwng yr iaith astudio
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Arholiad ysgrifenedig
- Arholiad llafar
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Ymchwilydd Academaidd, Dehonglydd, Dadansoddwr Risg Gwleidyddol, Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd, Newyddiadurwr Darlledu, Ditectif, Swyddog Gwasanaeth Diplomyddol, Ymgynghorydd Addysg, Athro/Athrawes Saesneg fel Iaith Dramor , Gweithiwr Cymorth/Datblygu Rhyngwladol, Rheolwr Logisteg a Dosbarthu, Swyddog Gweithredol Marchnata, Archwiliwr Patent, Tiwtor Preifat, Rheolwr Hawliau Cyhoeddi, Gweithredwr Gwerthu, Rheolwr Taith, Cyfieithydd.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Hyd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
