Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Gwaith Trydanol a Phlymio

Gwaith Trydanol a Phlymio

Gwaith Trydanol a Phlymio

Gwaith Trydanol a Phlymio

City & Guilds Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Gwasanaethau Adeiladu

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa “ymarferol” yn y Diwydiant Trydanol neu Blymio yna dyma’r rhaglen i chi

DYSGWYR:
ID: 51047

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cynnwys ystod eang o gynnwys fel bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth o’r diwydiant adeiladu, ac nid eu crefft eu hunain yn unig.

Bydd dysgwyr sy’n dilyn y llwybr Gwaith Trydanol a Phlymio yn cael y cyfle i weithio ar osodiadau trydanol yn ogystal â dysgu amrywiaeth o sgiliau plymio.

Energy Efficiency Association.Logo

Mae’r coleg yn aelod o’r Gymdeithas Effeithlonrwydd Ynni.

  • Two GCSEs at grade G or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/English Literature/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy
  • Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communication may be an acceptable equivalent to GCSEs
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course meeting or informal interview

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting

Byddwch yn dysgu trwy ystod o dasgau o fewn amgylchedd gweithdy “byw”. Ategir y tasgau hyn gan arddangosiadau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu eich ymwybyddiaeth o’r angen am arferion gweithio diogel, sgiliau offer sylfaenol a mesur cywir. Mae’r holl sgiliau hyn yn angenrheidiol i ddod yn grefftwr cymwys.

Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Uned 101 – Strwythur y diwydiant adeiladu
  • Uned 102 – Arferion gweithio diogel sylfaenol
  • Uned 103 – Mesurau amgylcheddol a chynaliadwyedd mewn anheddau domestig
  • Uned 104 – Paratoi safle ar gyfer gweithio yn y diwydiant adeiladu
  • Uned 105 – Gosodiadau trydanol – weirio a therfyniadau
  • Uned 108 – Draeniad uwchben y ddaear
  • Uned 109 – Pibwaith copr
  • Uned 110 – Pibellau gwasgedd plastig
  • Uned 112 – Gosod, atgyweirio a chynnal a chadw systemau plymio

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Practical assessment during the course
  • Portfolio of evidence

Ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel 1 yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael eu gwahodd i wneud cais am y Lefel 2 Sylfaen mewn Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau Peirianneg Gwaith Trydanol a Phlymio.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • Textbooks - you will be told about any specific items before you start the course, most textbooks are available to loan from the college library or online libraries
  • Technical drawing equipment - you will be told about any specific items before you start the course
  • Plumbing flame retardant coveralls - £35
  • Plumbing safety boots/shoes - £14/£39
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • No tuition fee
  • You will need to pay a £55 construction workshop fee each year before you start the course
  • You can rent a locker for £10 per year this will be refunded if the locker remains undamaged and keys are returned
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Hyd:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 31/07/2025
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close