show
Sylfaen City & Guilds Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (8042-51)
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ymarferol yn y Diwydiant Adeiladu Trydanol neu Blymio yna dyma’r rhaglen i chi.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cynnwys ystod eang o gynnwys fel bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth o’r diwydiant adeiladu, ac nid eu crefft eu hunain yn unig.
Bydd pob dysgwr adeiladu yng Nghymru sy’n dymuno cychwyn ar gwrs llawn-amser mewn crefft adeiladu yn cwblhau’r cymhwyster hwn. Mae’r chwe uned graidd hefyd yn rhan o bob prentisiaeth adeiladu, felly os ewch ymlaen i brentisiaeth ar ôl hyn, byddwch eisoes wedi cwblhau rhan sylweddol o’r dysgu gofynnol.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pedwar TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o dasgau o fewn amgylchedd gweithdy ‘byw’. Ategir y tasgau hyn gan arddangosiadau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu eich ymwybyddiaeth o’r angen am arferion gweithio diogel, sgiliau offer sylfaenol a mesur cywir. Mae’r holl sgiliau hyn yn angenrheidiol i ddod yn grefftwr cymwys.
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:
- Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n rhan o’r amgylchedd adeiledig a sut maent yn newid, ac wedi newid, dros amser
- Dealltwriaeth o’r crefftau, rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Dealltwriaeth o gylchred oes adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ar bob cam
- Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Gwybodaeth am dechnolegau newydd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol ac yn bwysig yn y gweithle yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Gwybodaeth a gallu i gymhwyso egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n diogelu iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd
- Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, perfformio a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn o leiaf dwy grefft o fewn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
Mae’r unedau craidd i’w hastudio yn cynnwys:
- Cyflwyniad i’r Amgylchedd Adeiledig
- Cyflwyniad i’r Crefftau yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
- Cyflwyniad i Gylch Bywyd yr Amgylchedd Adeiledig
- Cyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
- Diogelu Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
- Cyflwyniad i Dechnolegau Datblygol yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
Unedau pwnc-benodol i’w hastudio:
- Plymio, Gwresogi ac Awyru
- Systemau ac Offer Electrodechnegol
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ar-lein
- Cwblhau prosiect mawr terfynol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs Sylfaen hwn a’r bwrdd dilyniant hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael eu gwahodd i wneud cais am ddilyniant Lefel 2 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu mewn naill ai Gwaith Trydanol neu Plymio.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Offer lluniadu technegol - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Oferols gwrth-fflam plymio - £35
- Esgidiau/bwts diogelwch plymio - £14/£39
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy adeiladu o £55 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Duration: | 1 flwyddyn |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
