Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Gwyddoniaeth Gymhwysol mewn Ymchwiliad Fforensig

Diploma Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol mewn Fforensig ac Ymchwiliad Troseddol/ Seicoleg Lefel A CBAC

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 3 - Uwch

ID y Cwrs: 58378

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyflogaeth yn y sector gwyddor fforensig wedi tyfu ar gyfradd na welwyd ei debyg o’r blaen. Ydych chi’n barod i ddatrys achosion yn y dyfodol, gan gymhwyso gwybodaeth a sgiliau newydd i faes Fforensig?

llun agos o ficrosgop

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r llwybr Gwyddoniaeth Gymhwysol hwn yn cynnig cydbwysedd pwrpasol o amlygiad i elfennau traddodiadol Ffiseg, Bioleg a Chemeg, yn ogystal ag unedau sy’n seiliedig ar Gymdeithaseg, y Gyfraith ac Anthropoleg.

Mae’r cyfuniad unigryw hwn yn caniatáu i ddysgwyr ddeall damcaniaeth, yn ogystal â chymhwyso sgiliau ymarferol i faes cyflym Ymchwiliad Fforensig.

Ochr yn ochr â hynny, mae AS/A2 ychwanegol mewn Seicoleg yn caniatáu i ddysgwyr gymhwyso gwybodaeth a gwaith ymchwil seicolegol i’w set sgiliau.

Ar ôl cwblhau’r ail flwyddyn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cyflawni Diploma Cenedlaethol Lefel 3 Gwyddoniaeth Gymhwysol mewn Fforensig ac Ymchwilio Troseddol, sy’n cyfateb i ddau Lefel A galwedigaethol, ochr yn ochr â Seicoleg Lefel A a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg a Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl
  • Saesneg Iaith neu Mathemateg gradd B neu uwch
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
  • TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd C neu uwch
  • TGAU Gwyddoniaeth Gradd C neu uwch
  • TGAU Saesneg Iaith neu Fathemateg gradd B nue uwch

Bydd gofynion y cymhwyster yn golygu eich bod yn datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy a lefel uwch sy’n cael eu gwerthfawrogi gan ddarparwyr addysg uwch a chyflogwyr. Er enghraifft, mae astudio gwyddoniaeth gymhwysol yn arbennig yn annog datblygiad medrau fel gwerthuso, dadansoddi a chyfosod. Wedi’u cydbwyso â hyn, mae unedau sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth mewn troseddeg, cymdeithaseg a’r gyfraith, gan ganiatáu i ddamcaniaeth a chysyniadau cymdeithasol gael eu cymhwyso i’r arbrofion gwyddonol.
Ymhlith yr unedau a astudiwyd mae:

Egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth 1
• Gweithdrefnau a thechnegau gwyddonol ymarferol
• Sgiliau ymchwilio gwyddonol
• Gweithdrefnau Ymchwilio Fforensig ar Waith
• Cymwysiadau Troseddeg
• Gweithdrefnau Ymchwilio Troseddol ar Waith
• Geneteg Fforensig
• Anthropoleg Fforensig ac Archaeoleg

Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau Lefel A mewn Seicoleg, gan ddatblygu ymhellach eu cymhwysiad o sgiliau a gwybodaeth i’r maes cyflogaeth cynyddol boblogaidd hwn.
Yn ogystal, bydd astudio Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru yn datblygu ymhellach sgiliau ymchwil a dadansoddol, gan lunio dysgwyr â sgiliau Addysg Uwch perthnasol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Arholiad ysgrifenedig

Ar ôl ennill dealltwriaeth eang o wyddoniaeth fforensig, mae yna ystod o lwybrau gyrfa gan gynnwys Gwyddonydd Fforensig, Ymchwilydd Lleoliadau Trosedd a Swyddog Lleoliadau Trosedd.

Ydych chi’n ystyried astudio ar lefel gradd ar ôl y cwrs hwn? Ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 09/12/2025
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close