Seicoleg

Seicoleg
Seicoleg Lefel-A CBAC
Ydych chi wedi’ch swyno gan yr ymennydd dynol? Ydych chi eisiau astudio cymhlethdodau ymddygiad dynol a chael gwybodaeth am seicoleg wybyddol a datblygiadol?
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Trwy gydol y cwrs hwn byddwch yn dysgu am nifer o faterion sy’n ymwneud â’r meddwl, gan gynnwys patrymau ymddygiad, anhwylderau iechyd meddwl a therapïau yn seiliedig ar y gwahanol ragdybiaethau am ymddygiad dynol.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg
- Saesneg Iaith/Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd B a Mathemateg/Rhifedd gradd B
- Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Byddwch yn astudio dulliau gwyddonol a damcaniaethau enwog i helpu i ddod o hyd i atebion a thanategu hanfodion y pwnc hwn. Yn ystod eich amser ar y cwrs hwn byddwch yn tyfu’n academaidd ac yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy, y gellir eu defnyddio i werthuso, darparu tystiolaeth berthnasol a’ch helpu i ymchwilio i ddatblygiad dynol.
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Ymagweddau mewn Seicoleg – biolegol, seicodynamig, gwybyddol, ymddygiadol a chadarnhaol
- Dulliau ymchwil – egwyddorion ymchwil a dadleuon cyfoes
- Goblygiadau yn y byd go iawn – ymddygiad caethiwus, ymddygiad troseddol, sgitsoffrenia a dadleuon
- Dulliau ymchwil cymhwysol – ymchwiliadau personol
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Seicolegydd Clinigol, Seicolegydd Cwnsela, Seicolegydd Addysg, Seicolegydd Fforensig, Athro/Athrawes Addysg Bellach, Seicolegydd Iechyd, Therapydd Dwysedd Uchel, Seicolegydd Galwedigaethol, Ymarferydd Lles Seicolegol, Chwaraeon a Seicolegydd Ymarfer Corff.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Mode: | |
---|---|
Level: | |
Duration: | 2 flynedd |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf