Iaith a Llenyddiaeth Saesneg

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
Lefel-A Iaith a Llenyddiaeth Saesneg CBAC
Nod y cwrs hwn yw eich annog i ddatblygu eich diddordeb a’ch mwynhad o iaith a llenyddiaeth Saesneg trwy ddarllen yn eang, yn annibynnol ac yn feirniadol.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Yn ystod y cwrs byddwch yn dadansoddi sut mae ysgrifenwyr yn defnyddio iaith i ddatblygu cymeriadau a chreu llun ar gyfer y darllenydd. Byddwch yn astudio amrywiaeth o genres gwahanol ac yn datblygu eich sgiliau ysgrifennu creadigol eich hun.
Mae’r cwrs Lefel-A hwn yn datblygu empathi, creadigrwydd, cyfathrebu, dadl a meddwl unigol ac yn cyfuno’n dda ag ystod o astudiaethau lefel uwch eraill. Mae hefyd yn fforwm ar gyfer dadlau a chyfnewid syniadau.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg
- Iaith a Llenyddiaeth Saesneg gradd B
- Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Trwy ddarllen, bydd dysgwyr yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ymholi testunau, myfyrio’n feirniadol, ystyried safbwyntiau eraill, bod yn annibynnol, gwneud cysylltiadau ar draws ystod o destunau a deall a gwerthuso effeithiau amrywiaeth o gyd-destunau.
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Dadansoddiad cymharol o farddoniaeth a thestun nas gwelwyd
- Ysgrifennu creadigol
- Drama ôl-1900
- Astudiaeth testun anllenyddol
- Shakespeare
- Testunau nas gwelwyd ac astudiaeth rhyddiaith
- Astudio genre beirniadol a chreadigol
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Os ydych yn astudio cymhwyster Seiliedig ar Waith:
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu
Pob cwrs arall:
- Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl yn feirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, cefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Ar gyfer Saesneg:
- Cwrs uwchsgilio blwyddyn neu ddwy cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Ar gyfer Mathemateg:
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
- Cwrs uwchsgilio dwy flynedd cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Bydd enillwyr sy’n astudio ar raglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) yn cael eu hamserlennu i sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Ysgrifennwr Copi Digidol, Cynorthwy-ydd Golygyddol, Athro/Athrawes Saesneg fel Iaith Dramor, Geiriadurwr, Newyddiadurwr Cylchgronau, Newyddiadurwr Papur Newydd, Tiwtor Preifat, Golygydd Copi Cyhoeddi/Profi- darllenydd, Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd, Rheolwr Cynnwys Gwe, Awdur.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Duration: | 2 flynedd |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.