Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

City & Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

Mae hwn yn gymhwyster a ddatblygwyd ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn, neu’n bwriadu gweithio, yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

ID: N/A

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer. Mae’n datblygu gallu’r dysgwr i gefnogi anghenion iechyd a gofal oedolion yn ymarferol mewn ystod o leoliadau a bydd yn eu galluogi i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer o fewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’n cael ei annog yn gryf bod dysgwyr wedi cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r cwrs hwn gan y bydd hyn yn ofyniad ar gyfer ymarfer a osodwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o fewn cyd-destun ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n cynnwys y materion cyfredol canlynol mewn perthynas ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru:

  • agweddau corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol sy’n effeithio ar dwf a datblygiad ar draws cyfnodau bywyd unigolion
  • dylanwad ffactorau bywyd, dewisiadau ffordd o fyw a digwyddiadau bywyd ar dwf, iechyd a lles
  • ffactorau sy’n llywio hunan-gysyniad
  • rôl a phwrpas hybu iechyd a lles
  • anghenion unigol ar draws pob cyfnod bywyd
  • cyfleoedd a heriau yn lleol ac ar draws Cymru
  • rôl a chyfrifoldebau gweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • deddfwriaeth ac egwyddorion gofal a chymorth

Mae’n ofynnol i ddysgwyr ymgymryd ag o leiaf 60 awr o ymgysylltu â’r sector, a rhaid treulio o leiaf 30 awr yn gwneud lleoliad gwaith. Gallai mathau eraill o ymgysylltu â’r sector gynnwys ymweliadau â’r gweithle, darlithwyr gwadd a mynychu cynadleddau a digwyddiadau allanol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Tystiolaeth gweithle

Mae hyn ar gyfer dysgwyr sy’n cael cyflogaeth yn y sector mewn rôl gefnogi ac yn galluogi dysgwyr i gymhwyso i fod yn weithiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol dan oruchwyliaeth a gwneud cais am gofrestriad gwirfoddol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ar yr amod eu bod hefyd yn bodloni unrhyw ofynion cofrestru arall.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Modd:

,

Lefel:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 25/08/2023

Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.

Shopping cart close

Holiday Hours

The College will be closed

Saturday 20 December
to Monday 05 January

Have a Merry Christmas and a Happy New Year!