Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Lletygarwch

Lletygarwch

Lletygarwch

Diploma VRQ Lefel 1 Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol | Tystysgrif VRQ Lefel 1 Gwasanaeth Bwyd a Diod

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth sylfaenol dda i chi am y diwydiant lletygarwch i’ch galluogi i symud ymlaen i astudiaeth lefel uwch neu i gyflogaeth.

DYSGWYR:
ID: N/A

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs blwyddyn llawn-amser hwn wedi’i gynllunio i roi profiad uniongyrchol o’r diwydiant lletygarwch i chi er mwyn eich galluogi i symud ymlaen i astudiaeth lefel uwch neu i gyflogaeth.

Gofynion hylendid ac iechyd a diogelwch:

  • Rhaid gorchuddio pob tatŵ gweladwy
  • Rhaid cael gwared ar dlwsdyllau gweladwy
  • Ni chaniateir gemwaith, ac eithrio modrwy priodas ac un pâr o glustdlysau math styd
  • Rhaid brwsio’r gwallt a’i glymu’n ôl

Canllaw i Gyrsiau Lletygarwch

  • Two GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to preferably include English Language/First Language Welsh
  • Good personal presentation and communication skills are required
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course information session or informal interview

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i roi cipolwg i chi ar y diwydiant lletygarwch i’ch galluogi i symud ymlaen i astudiaeth lefel uwch neu i gyflogaeth.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol

  • Cyflwyniad i’r diwydiant lletygarwch ac arlwyo
  • Diogelwch bwyd mewn arlwyo
  • Ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch ar gyfer arlwyo a lletygarwch
  • Cyflwyniad i fwydydd iachach a diet arbennig
  • Cyflwyniad i offer cegin
  • Paratoi a choginio bwyd trwy ei ferwi, ei botsio a’i stemio
  • Paratoi a choginio bwyd trwy stiwio a brwysio
  • Paratoi a choginio bwyd trwy ei bobi, ei rostio a’i grilio
  • Paratoi a choginio bwyd trwy ffrio dwfn a ffrio bas
  • Adfywio bwyd wedi’i baratoi ymlaen llaw
  • Paratoi bwyd oer

Gwasanaeth Bwyd a Diod

  • Deddfwriaeth bwyd a diod
  • Deall bwydlenni
  • Sgiliau gweini bwyd a diod
  • Cynnal a delio â thaliadau
  • Gwasanaeth bar
  • Gwasanaeth diodydd poeth

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Practical assessment during the course
  • Portfolio of evidence
  • Practical examination
  • Written examination

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Cogydd Sous Iau, Porthor Cegin, Cogydd Pantri, Cynorthwyydd Bwyd a Diod, Gweinydd, Gweithiwr Bar.

[text-blocks id=”default-progression-text”]

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • Text books - you will be told about any specific items before you start the course, most text books are available to loan from the college library or online libraries
  • You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
  • Hospitality and Catering clothing - this includes the basics you will need during the course and into the future - £182/£186
  • Catering knife set - this includes the basics you will need during the course and into the future - £90
  • Optional cut resistant glove - £9
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • No tuition fee
  • We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
  • There is an annual workshop fee for this course (£20 - £60), payable before you start the course
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 01/06/2022

Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.

Shopping cart close