Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Tystysgrif VRQ Lefel 2 mewn Sgiliau Coginio | Tystysgrif VRQ Lefel 2 mewn Sgiliau Gweini Bwyd a Diod Proffesiynol

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 2 - Canolradd

ID y Cwrs: 41171

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dilyniant mewnol yn unig

Mae’r diwydiant lletygarwch yn sector amrywiol sy’n cynnig llawer o gyfleoedd gwaith ledled y DU ac yn rhyngwladol. O siop goffi annibynnol i westai moethus a llongau mordaith, mae angen cogyddion hyfforddedig a gweithwyr proffesiynol blaen tŷ sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ar y diwydiant i fodloni gofynion cynyddol nifer fawr o gyflogwyr.

Lletygarwch

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs dilyniant llawn amser blwyddyn hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau Tystysgrif Lefel 1 mewn Lletygarwch, mae’n darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o bob sector o’r diwydiant lletygarwch ac arlwyo.

Gofynion hylendid ac iechyd a diogelwch:

  • Rhaid gorchuddio pob tatŵ gweladwy
  • Rhaid cael gwared ar dlwsdyllau gweladwy
  • Ni chaniateir gemwaith, ac eithrio modrwy priodas ac un pâr o glustdlysau math styd
  • Rhaid brwsio’r gwallt a’i glymu’n ôl
  • Fel arfer nid oes mynediad uniongyrchol i'r cwrs hwn, byddai angen i chi symud ymlaen o gwblhau lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i roi cipolwg i chi ar y diwydiant lletygarwch i’ch galluogi i symud ymlaen i astudiaeth lefel uwch neu i gyflogaeth.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

Sgiliau Coginio

  • Diogelwch bwyd mewn arlwyo
  • Paratoi a choginio sawsiau, cawliau a stociau
  • Paratoi a choginio seigiau reis, pasta a grawn
  • Cynhyrchu pwdinau

Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod

  • Diogelwch bwyd mewn arlwyo
  • Sgiliau gweini bwyd a diod
  • Cynnal a delio â thaliadau

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ysgrifenedig

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Cogydd Sous Iau, Porthor Cegin, Cogydd Pantri, Cynorthwyydd Bwyd a Diod, Prif Gogydd, Sous Chef, Cogydd Commis, Cogydd Crwst, Rheolwr dan Hyfforddiant, Chef de Partie.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Byddai’n fuddiol, ond ddim yn hanfodol, dod â’ch dyfais/gliniadur eich hun i gefnogi eich astudiaethau
  • Offer a Gwisg Lletygarwch ac Arlwyo - mae hyn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £350
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy lletygarwch o £50 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 2
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 22/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close