Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Crefft Peirianneg Fecanyddol

Crefft Peirianneg Fecanyddol

Crefft Peirianneg Fecanyddol

Diploma Lefel 2 EAL mewn Technolegau Peirianneg

Mae’r diwydiant peirianneg yn sector amrywiol sy’n cynnig amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd dilyniant i bobl sydd â diddordeb mewn dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw eitemau mecanyddol.

MEYSYDD:
DYSGWYR:
ID: 36680

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Byddwch yn treulio amser yn ein gweithdai safon diwydiant yn datblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i symud ymlaen i’r diwydiant peirianneg ochr yn ochr ag amser a dreulir yn yr ystafell ddosbarth yn dysgu’r theori.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i astudiaeth lefel uwch neu brentisiaeth.

Nid yw Peirianneg Fecanyddol yn cynnwys unrhyw fodiwlau neu hyfforddiant sy’n ymwneud â cherbydau, gweler ein cyrsiau Peirianneg Modurol.

  • Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn egwyddorion peirianneg fecanyddol, weldio, gosod a pheiriannu.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Gweithio mewn peirianneg – Bydd yr uned hon yn annog ymgeiswyr i ddysgu am weithio mewn peirianneg. Bydd yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i weithredu yn y sectorau peirianneg neu weithgynhyrchu. Bydd yn ymdrin â’r angen i gydnabod a defnyddio arferion gwaith diogel, ystyried yr amgylchedd a gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm. Mae’n cynnwys y dulliau cyfathrebu y mae peirianwyr yn eu defnyddio bob dydd.
  • Egwyddorion technoleg peirianneg – Mae’r uned hon yn ymwneud ag egwyddorion sylfaenol mathemateg a gwyddoniaeth, ynghyd â’r dechnoleg deunyddiau sy’n sail i gymwysiadau peirianneg. Mae’n ymdrin â chyfrifiadau peirianneg gymhwysol cyffredin a dewis deunyddiau o ran mathau, mathau cyffredin o gyflenwad, priodweddau a dulliau o newid eu priodweddau.
  • Egwyddorion technoleg gweithgynhyrchu – Mae’r uned hon yn ymwneud â dulliau gweithgynhyrchu. Mae’n cynnwys yr ystod o swyddogaethau a geir mewn sefydliadau gweithgynhyrchu a bydd yn rhoi’r wybodaeth i’r ymgeisydd i gynllunio’r gwaith o gynhyrchu cydrannau peirianneg arferol gan ddefnyddio’r dull(iau) gweithgynhyrchu mwyaf economaidd.
  • Cydrannau peiriant yn defnyddio technegau troi – Mae’r uned hon yn ymdrin ag ystod eang o weithgareddau troi sy’n ofynnol yn y sectorau peirianneg a gweithgynhyrchu. Mae’n cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynhyrchu cydrannau wedi’u troi mewn gwahanol ddeunyddiau, gan ddefnyddio offer a chyfarpar priodol, a thechnegau archwilio i gyflawni’r goddefiannau gofynnol a chydymffurfio â manylebau, tra’n cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch. Mae’r uned hon yn ymwneud â’r broses waelodol o gynhyrchu cydrannau sydd angen siafftiau o wahanol hyd a siapiau (gan gynnwys turio a ehangu twll).
  • Defnyddio technegau gosod meinciau – Mae’r uned hon yn ymdrin ag ystod eang o weithgareddau gosod sy’n ofynnol yn y sectorau peirianneg a gweithgynhyrchu. Mae’n cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynhyrchu cydrannau i’w cydosod gan ddefnyddio offer priodol, gwahanol ddeunyddiau a thechnegau archwilio i gyflawni’r goddefiannau gofynnol a chydymffurfio â manylebau, tra’n cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch.
  • Weldio trwy broses MIG – Mae’r uned hon er mwyn galluogi datblygu sgiliau weldio nwy anadweithiol metel (MIG) i fodloni gofynion derbyn diffygion BS 4872 rhan 1. Mae’r pynciau gwybodaeth gymhwysol yn cynnwys: peryglon iechyd a diogelwch a dulliau o’u hosgoi, paratoi, gofynion trydanol, nwyddau traul, technegau weldio, safleoedd weldio, rheoli ystumio a chywiro, gofynion rhan 1 BS 4872 a phrofion annistrywiol a gweithdy.

 

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ymarferol
  • Arholiad ar-lein

Gall y cwrs hwn arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys: Gwneuthurwr Offer, Technegydd Rheoli Ansawdd, Peiriannydd Cynnal a Chadw Mecanyddol, Weldiwr (Adeiladu, Platio, Gosod Pibellau), Gwneuthurwr Cyfansoddion, Gwella Peirianneg Cynhyrchu, Peiriannydd Cynhyrchu, Peiriannydd, Peiriannydd Profi Deunyddiau, Dylunydd.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Oferols gwrth-fflam peirianneg - £35
  • Esgidiau diogelwch peirianyddol - £14/£35
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy peirianneg o £85 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Additional information

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 08/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close