Gwaith Saer

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa “ymarferol” yn y Diwydiant Adeiladu Galwedigaethau Pren yna dyma’r rhaglen i chi. Dysgwch drwy ymarfer a datblygu sgiliau gwaith saer ac asiedydd allweddol.
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Gall pobl o unrhyw oedran gwblhau prentisiaeth mewn Gwaith Saer. Mae mynediad yn amodol ar gyfweliad. Mae Prentisiaethau mewn Gwaith Saer yn cynnwys:
- Hyfforddiant yn y coleg un diwrnod yr wythnos
- Cymhwyster NVQ sy’n cael ei asesu yn y gweithle
- Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio
- Os nad ydych wedi cwblhau “Sylfaen” neu “Graidd”, bydd angen i chi wneud Lefel 2 fel rhan o’r Brentisiaeth hon.
I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth ac ni ellir cyflawni hyn heb gyflogaeth yn y grefft.
Bydd angen i’ch cyflogwr:
- Allu eich rhyddhau un diwrnod yr wythnos i fynychu’r coleg
- Rhoi tystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
- Bod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
- Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi, gan gynnwys diwrnodau yn y coleg
Cyflwyno
- Yn y coleg: Un diwrnod yr wythnos yn y coleg dros ddwy i dair blynedd yn dibynnu ar gymwysterau blaenorol a phrofiad diwydiant.
- Yn y gweithle: Rhaid i gyflogwyr gytuno i ymweliadau aseswr wedi’u cynllunio bob mis i’ch arsylwi ac i drafod eich cynnydd gyda goruchwyliwr.
Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf ac mewn cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos. Os nad oes gennych gyflogwr ond yr hoffech chi ddal ymuno â’r cwrs hyfforddi un diwrnod yr wythnos, dylech ymweld â’r dudalen Dysgwyr sy’n Oedolion – ‘Saer Coed – Craidd‘.
Mae lleoedd ar Raglenni Prentisiaeth yn gyfyngedig ac yn amodol ar gapasiti. Nid yw cynnig cyflogaeth yn gwarantu lle ar unwaith yn y coleg.
Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.ukDysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
- Mae'n bosibl y bydd angen prawf sgiliau sy'n gysylltiedig â'r pwnc yn sesiwn gwybodaeth y cwrs
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Os nad ydych yn bodloni'r gofynion mynediad efallai y byddwn yn cynnig cwrs arall i chi fel dewis arall
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae unedau yn cynnwys:
- 301 Deall Arferion Adeiladu yng Nghymru
- 302 Gweithio yn y Sector Adeiladu yng Nghymru
- 303 Cynllunio a gwerthuso gwaith yn y Sector Adeiladu yng Nghymru
- 304 Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle
- 305 Cydymffurfio ag arferion gwaith cynhyrchiol
- 306 Symud, trin neu storio adnoddau
- 212 Gwybodaeth Graidd Gwaith Saer Safle
- 213 Gosod cydrannau gosodiad cyntaf
- 214 Gosod cydrannau ail osodiad
- 215 Codi cydrannau carcasu strwythurol
- 335 Cynnal gwaith saer nad yw’n strwythurol
- 336 Gosod a defnyddio peiriant torri a siapio y gellir ei gludo
- 314 Gosod cydrannau gosodiad cyntaf ac ail osodiad cymhleth
- 315 Codi cydrannau carcasau strwythur to
Mae gofynion penodol ar gyfer gweithgareddau y mae angen i chi allu eu cyflawni yn y gweithle. Ar ôl i chi wneud cais, bydd aseswr yn cysylltu â chi a’ch cyflogwr i drafod sut i fodloni’r gofynion hyn.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ar-lein
- Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad
Beth alla i ei wneud nesaf?
Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Adeiladu
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Trowsus gwaith coed - £30
- Esgidiau/bwts diogelwch gwaith coed - £14/£39
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Duration: | 2 flynedd, 3 flynedd |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 17/05/2024