Cost y cwrs:
Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ
Mae’r cwrs ar gyfer unrhyw un sydd angen dealltwriaeth o reoliadau dŵr/is-ddeddfau dŵr. Yn arbennig y rhai sy’n dymuno dod yn blymwyr/contractwyr cymeradwy.
Cost y cwrs:
Mae’r hyfforddiant a’r asesiad undydd hwn ar gyfer unrhyw un sydd am ddod yn blymwr/contractwr cymeradwy. Anogir ymgeiswyr llwyddiannus i ymuno â chynllun plymwyr/contractwyr cymeradwy, megis y rhai a reolir gan SNIPEF, APHC, CIPHE, WIAPS, a’r cwmnïau cyfleustodau dŵr rhanbarthol. Mae hyn yn eu galluogi i roi tystysgrif cwblhau i’r deiliad tŷ a’r cwmni dŵr.
Sylwch y gallai fod angen cymwysterau eraill sy’n gysylltiedig â diwydiant i ymuno â’r cynlluniau hyn.
Gall cyllid Cyfrif Dysgu Personol (PLA) fod ar gael ar gyfer y cwrs hwn (yn amodol ar gymhwysedd). Edrychwch ar y wybodaeth am gyllid PLA neu cysylltwch â central@colegsirbenfro.ac.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Ynni ar 01437 753 436 neu drwy e-bost canolfanynni@colegsirbenfro.ac.uk
Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf dwy flynedd o brofiad amlwg yn y diwydiant plymio, neu NVQ Lefel 2 neu gyfwerth mewn plymwaith.
Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir â hwy mae:
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau Canolfan Ynni.
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.