Dŵr Poeth: Gwresogi Thermol Solar

Dŵr Poeth: Gwresogi Thermol Solar
Dyfarniad BPEC Lefel 3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Dŵr Poeth Solar Thermol
Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn gosod a chynnal a chadw systemau dŵr poeth thermol bach.
Cost y cwrs:
£950.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hyfforddi ac asesu pum diwrnod hwn ar gyfer y dysgwyr hynny a gyflogir ar hyn o bryd yn y diwydiant plymio a gwresogi domestig sy’n rhoi’r hyfforddiant angenrheidiol iddynt ddatblygu eu medrau presennol. Mae’n ymdrin â dylunio, gosod a chynnal a chadw systemau dŵr poeth solar thermol.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Ynni ar 01437 753 436, drwy e-bost energycentre@pembrokeshire.ac.uk neu drwy’r ffurflen gais am alwad yn ôl isod.Dylai fod gan ddysgwyr gymhwyster NVQ lefel 2/3 o leiaf mewn plymio neu beirianneg wresogi gonfensiynol neu dystiolaeth amlwg o o leiaf 3 blynedd o brofiad perthnasol, Tystysgrif Systemau Storio Dŵr Poeth wedi’i Awyru a Heb ei Awyru Domestig a Rheoliadau Dŵr.
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Gwybod y gofynion i osod, comisiynu a throsglwyddo systemau dŵr poeth solar thermol
- Archwilio, gwasanaethu a chynnal systemau dŵr poeth solar thermol ‘gweithredol’
- Gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau dŵr poeth solar thermol ‘gweithredol’
- Gwybod y gofynion i archwilio, gwasanaethu a chynnal systemau dŵr poeth solar thermol ‘gweithredol’
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
Following completion of this course you might want to try another one of our Energy Centre courses.
- Copïau o ddysgu blaenorol a/neu gymwysterau
- Dim costau ychwanegol