Sgiliau Byw’n Annibynnol

Sgiliau Byw’n Annibynnol
Mae’r Academi Sgiliau Bywyd yn cynnig rhaglenni cyfoethog ac amrywiol sydd wedi’u cynllunio’n benodol i ganiatáu i unigolion ddysgu a byw’n fwy annibynnol.
Bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau cymdeithasol a’u lles, yn ymgysylltu â’u cymuned, yn gwella eu llythrennedd, eu rhifedd a’u llythrennedd digidol ac yn paratoi ar gyfer byd gwaith.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni hyblyg sy’n gynhwysol iawn ac yn gefnogol i anghenion dysgwyr unigol sy’n canolbwyntio ar gyrchfan realistig o:
- Paratoi ar gyfer oedolaeth
- Addysg Bellach
- Cyflogadwyedd
Mae pob rhaglen yn canolbwyntio ar y person i sicrhau bod dyheadau’r dysgwyr yn cael eu cyflawni.
Mae gennym raglenni Sgiliau (Llwybr 1 a 2) ar gyfer dysgwyr a allai fod angen cefnogaeth agosach arnynt drwy gydol y dydd, gan gynnwys amseroedd egwyl a chinio.
Mae’r rhaglenni’n cynnwys:
- Sgiliau ar gyfer bywyd
- Sgiliau ar gyfer bywyd a mwy
- Sgiliau ar gyfer cyflogaeth
- Sgiliau ar gyfer cynnydd
Mae gennym raglenni Paratoi (Llwybr 3) ar gyfer dysgwyr a allai fod yn barod am fwy o annibyniaeth drwy gydol y dydd, gan gynnwys amseroedd egwyl a chinio.
Mae’r rhaglenni’n cynnwys:
- Paratoi ar gyfer bywyd
- Paratoi ar gyfer addysg bellach (AB)
- Paratoi ar gyfer cyflogaeth
Mae rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd yn rhedeg am dair diwrnod yr wythnos yn y coleg.
Tra byddant yn y Coleg, bydd dysgwyr yn gallu profi ein sesiynau yn y dosbarth, ein parth sgiliau byw’n annibynnol, a phrofiad gwaith yn ein gweithdy a’n canolfan arddio.
I ddysgwyr sydd am baratoi ar gyfer byd gwaith, dilynwch y ddolen isod i weld Darpariaeth Llwybr 4.
Disgwylir i ddysgwyr sy’n ymuno â rhaglen Llwybr 4 fynychu lleoliad gwaith annibynnol/interniaeth â chymorth am ddau ddiwrnod yr wythnos. Academi Sgiliau Bywyd – Llwybr 4 Cyflogaeth – Coleg Sir Benfro
Darllenwch ein canllaw Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer Pontio i’r Coleg.
Os hoffech fynychu’r Coleg ar gyfer gweithgareddau blasu neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Wendy Salisbury, yn w.salisbury@pembrokeshire.ac.uk
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau Rhaglen Gyswllt yn llwyddiannus
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Amherthnasol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Gan ddilyn cwricwlwm cymysg Colegau Cymru, gall dysgwyr ddilyn cymysgedd o raglenni achrededig a rhaglenni heb achrediad. Mae pob rhaglen Academi Sgiliau Bywyd yn cynnwys y canlynol:
- Cynhwysiant Cymunedol – Ymglymiad cymunedol, diogelwch ffyrdd, teithio, gwirfoddoli a gweithgareddau menter
- Cyflogadwyedd – Arferion gwaith, trefniadaeth, rheoli amser, gweithio’n annibynnol, gwaith tîm, paratoi ar gyfer cyfweliad
- Sgiliau Byw’n Annibynnol – Perthnasoedd, coginio, rheoli arian, hylendid personol, dyletswyddau cartref, dewisiadau a gwneud penderfyniadau
- Iechyd a Llesiant – Ymarfer corff, celfyddydau creadigol, dewisiadau bywyd iach, hunan-eiriolaeth, hawliau a chyfrifoldebau
- Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol
Yn dibynnu ar gyrchfan y dysgwr, bydd mwy o amser yn cael ei dreulio yn datblygu’r set sgiliau hynny.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
Beth alla i ei wneud nesaf?
Mae gennym bartneriaeth ardderchog gyda Chynghorwyr Gyrfa Cymru ac asiantaethau allanol eraill. Maen nhw, ar y cyd â chynrychiolwyr pontio coleg, yn helpu dysgwyr gyda chyfleoedd ôl-goleg addas. Gall y rhain gynnwys cyngor ar fyw’n annibynnol (paratoi ar gyfer oedolaeth), cyflogaeth (gwaith gwirfoddol) neu’r camau nesaf i ddatblygu eu haddysg yn y Coleg neu fynychu Canolfannau Gweithgareddau Cymdeithasol i Oedolion.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Dillad ymarferol/cysurus ar gyfer rhannau o'r cwrs
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy sgiliau bywyd o £50 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Level: | |
---|---|
Mode: | |
Duration: | 1 flwyddyn |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf