Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Celf a Dylunio

Celf a Dylunio

Celf a Dylunio

Diploma Sylfaen Lefel 3 UAL mewn Celf a Dylunio | Uned Ymarfer Cyfnerthol Lefel 4 UAL

Os ydych yn greadigol ac yn frwdfrydig ac yn meddwl o ddifrif am ddod yn artist neu ddylunydd proffesiynol; os ydych chi eisiau astudio ochr yn ochr ag eraill sydd mor awyddus a thalentog â chi’ch hun, ac yn gallu dangos portffolio cryf o waith i ni, yna dylech wneud cais i’r cwrs hwn.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn adeiladu ar eich profiad blaenorol, gan gysylltu sgiliau a enillwyd eisoes â syniadau a heriau, a fydd yn ehangu eu hannibyniaeth feirniadol ac yn eich galluogi i ddangos dealltwriaeth lawn o’r safonau perthnasol sy’n angenrheidiol i symud ymlaen i Addysg Uwch neu i yrfa o’ch dewis.

Nodweddir y rhaglen hon gan ddysgu trwy brofiad, arbrofol ac integredig, gan ddibynnu ar gymhwyso a throsglwyddo sgiliau llaw. Dylai dysgwyr werthfawrogi’r canlyniadau damweiniol ac aflonyddgar a all ddigwydd, ac adnabod egwyddorion cyffredin a nodweddion nodedig disgyblaethau pwnc o fewn maes celf a dylunio.

  • Level 3 Art/Design at grade C or above (either A-level or vocational qualification)
  • Five GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh
  • A portfolio/examples of work will be required for this course
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course information session or informal interview
  • Level 3 Art/Design at grade C or above (either A-level or vocational qualification)
  • Successful decision from progression board meeting

Bydd yr unedau a astudir yn cynnwys:

  • Cyfnod Archwilio – ymchwiliad i hanfodion iaith weledol, trwy archwiliad dwys o luniadu, lliw ac ystod o ieithoedd a phrosesau gweledol 2D a 3D sylfaenol
  • Cyfnod Llwybr – gall myfyrwyr arbenigo mewn ystod o ddisgyblaethau er enghraifft, Celfyddyd Gain, Dylunio Graffig, Ffasiwn/Tecstilau, 3D
  • Cyfnod Cadarnhau – gwaith ar brosiect personol mawr yn seiliedig ar eich dewis faes arbenigol gan arwain at arddangosfa unigol ar ddiwedd y flwyddyn

Sgiliau y byddwch yn eu dysgu:

  • Deall a chymhwyso’r broses greadigol
  • Sgiliau creadigol i lefel uchel yn eich maes arbenigol
  • Technegau cyflwyno
  • Rheoli amser ac astudio a chymhelliant hunan-ysgogol

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Portfolio of evidence
  • Completion of a final major project

Mae gan y cwrs hwn enw rhagorol am baratoi dysgwyr ar gyfer astudio mewn Addysg Uwch ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis symud ymlaen i gyrsiau gradd a gallant symud ymlaen i swyddi proffesiynol ym mhob maes Celf a Dylunio, gan gynnwys: Celfyddyd Gain, Dylunio Graffig, y Cyfryngau, Dylunio a Chrefft 3D, Ffasiwn/Tecstilau ac Addysgu.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
  • Art materials - you will be told about any specific items during or before you start the course
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • No tuition fee
  • We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
  • You will need to pay a £70 art workshop fee each year before you start the course
  • You can rent a locker for £10 per year this will be refunded if the locker remains undamaged and keys are returned
  • There may be trips/expeditions required or optional as part of this course
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

,

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close