Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Therapi Harddwch

Therapi Harddwch

Therapi Harddwch

Diploma VTCT Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch

Mae hwn yn gwrs therapi harddwch uwch a fydd yn eich darparu ag amrywiaeth eang o sgiliau gan roi’r ystod ehangaf posibl o yrfaoedd i chi yn y dyfodol.

ID: 31277

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i weithio’n effeithiol fel therapydd harddwch gan gynnwys: darparu tylino’r corff, electrotherapi wyneb a chorff, iechyd a diogelwch a gofal y cleient.

Mae strwythur y cymhwyster hwn yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch.

Byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn cystadlaethau i fireinio eich sgiliau a byddwch hefyd yn elwa o arddangosiadau a darlithoedd gan arbenigwyr o fewn y diwydiant.

  • Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'r lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Mae’r cwrs yn cynnwys wyth uned ac mae’n heriol ac yn ddwys. Rhoddir pwyslais ar asesiadau ymarferol, terfynau amser aseiniadau, profion allanol ac asesiadau graddedig. Byddwch yn mynychu sesiynau salon ac ystafell ddosbarth ar yr amserlen ar gyfer pob uned:

  • Gweithio gyda chydweithwyr mewn diwydiannau sy’n ymwneud â harddwch – mae’r uned hon yn edrych ar y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gyfathrebu’n effeithiol a ffurfio perthnasoedd gwaith da.
  • Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon – p’un a ydych yn gweithio mewn salon, sba, llong fordaith neu ar set, mae angen i chi wybod sut i gynnal amgylchedd diogel ar gyfer staff, cleientiaid a modelau. Byddwch yn dysgu sut i gynnal asesiadau risg, cael arweiniad ar y mathau o yswiriant sydd eu hangen, ac edrych ar sut i sefydlu staff newydd a’r math o hyfforddiant a chymorth y gallai fod eu hangen arnynt.
  • Gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau sy’n ymwneud â harddwch – yn y diwydiant hwn mae angen sgiliau llafar rhagorol arnoch gan gynnwys defnyddio gwahanol dechnegau holi. Byddwch yn dysgu am iaith y corff, sut i ymddwyn mewn sefyllfa salon a’r gofynion cyfreithiol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.
  • Hyrwyddo a gwerthu nwyddau a gwasanaethau i gleientiaid – bydd yr uned hon yn eich helpu i fagu hyder drwy edrych yn wahanol ar y grefft o werthu a hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau.
  • Darparu dylino’r corff – yn yr uned hon byddwch yn dysgu sut i ddewis y technegau a’r cynhyrchion mwyaf priodol i weddu i’r cleient. Mae’r uned hon yn cynnwys defnyddio lampau isgoch ac offer tylino mecanyddol.
  • Darparu triniaethau electrotherapi’r wyneb – bydd yr uned hon yn rhoi’r wybodaeth, y technegau a’r arbenigedd i chi drin amrywiaeth eang o broblemau croen. Mae’r triniaethau’n cynnwys Amlder Uchel, sugnedd gwactod, EMS, Desincrustation, Iontophoresis a Microcurrent (wyneb heb lawdriniaeth).
  • Darparu triniaethau electrotherapi’r corff – bydd yr uned hon yn rhoi’r wybodaeth, y technegau a’r arbenigedd i chi drin amrywiaeth eang o broblemau croen a chorff. Mae’r triniaethau’n cynnwys Amlder Uchel, sugnedd gwactod, EMS, Desincrustation, Iontophoresis a Microcurrent (corff heb lawdriniaeth).
  • Darparu lliw haul – Yn yr uned hon byddwch yn dysgu sut i roi’r lliw haul perffaith ar y corff a’r wyneb, trwy ei roi â llaw a thrwy chwistrellu.
  • Darparu micro-dermabrasion – mae’r driniaeth hon yn defnyddio llif rheoledig o grisialau i ddiblisgio wyneb y croen yn fecanyddol. Mae hefyd yn ymdrin â’r mathau o groen a chyflyrau rydych chi’n debygol o ddod ar eu traws mewn gwaith wyneb a sut i gynghori cleientiaid ar ddefnyddio cynnyrch a newidiadau i’ch ffordd o fyw.
  • Cymhwyso therapi carreg – Byddwch yn dysgu sut i gyflawni’r technegau cydnabyddedig, gan gynnwys asio gwres, oerni, tylino a chydbwyso egni gyda sgil a hyder.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymhellach trwy dylino, lliw haul, micro dermabrasion a therapi cerrig.

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys presenoldeb wythnosol mewn sesiynau masnachol gyda’r nos a bydd gofyn i chi drefnu eich cludiant eich hun.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gall myfyrwyr fynd ymlaen i astudio VTCT Lefel 3 mewn Therapi Cyfannol neu Radd Sylfaen mewn Therapïau Harddwch. Gall myfyrwyr chwilio am waith ar longau mordaith, gwestai, sba iechyd neu gyda sefydliadau iechyd a harddwch byd-eang.

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Therapydd Harddwch, Artist Colur, Technegydd Ewinedd, Masseur, Therapydd Cyflenwol, Artist Colur Effeithiau Arbennig, Arbenigwr Gofal Croen, Ymgynghorydd Delwedd/Steilydd, Aromatherapydd.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Gwisg Therapi Harddwch - £45/£55
  • Pecyn therapi cerrig poeth - £180
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy harddwch o £55 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 3
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Additional information

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 30/01/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close