Weldio a Ffabrigo
															Weldio a Ffabrigo
City& Guilds Tystysgrif Lefel 1 mewn Peirianneg (Weldio)
Mae’r diwydiant yn darparu ystod eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous, amrywiol a gwerth chweil i unigolion medrus.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y cwrs blwyddyn hwn sy’n benodol i’r diwydiant olew a nwy yn darparu agwedd ‘ymarferol’ at hyfforddiant weldio rhagarweiniol ac mae wedi’i gynllunio i lenwi bwlch a nodwyd yn y farchnad ar gyfer sgiliau weldio rhagarweiniol.
					 Beth yw'r gofynion mynediad? 
							
			
			
		
						
				- Dau TGAU gradd G neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
 - Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
 - Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
 
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
					 Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad? 
							
			
			
		
						
				- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
 
					 Beth fydda i'n ei ddysgu? 
							
			
			
		
						
				Fel rhan o’r cwrs hwn, byddwch yn astudio ystod o unedau rhagarweiniol sy’n ymwneud â weldio a ffabrigo ar gyfer symud ymlaen i’r diwydiant peirianneg adeiladu gan gynnwys:
- Gweithio mewn peirianneg – Bydd yr uned hon yn galluogi dysgwyr i ddysgu am weithio mewn peirianneg ac mae’n ymdrin â’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i fynd i’r sectorau peirianneg neu weithgynhyrchu. Mae’r addysgu’n cynnwys yr angen i adnabod a defnyddio arferion gweithio diogel, ystyriaeth o’r amgylchedd, gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm, deunyddiau sylfaenol y mae peirianwyr yn eu defnyddio yn eu gwaith bob dydd yn ogystal â’r dechnoleg gwybodaeth a ddefnyddir.
 - Weldio MIG – Mae’r uned hon yn ymwneud â’r dechnoleg broses sylfaenol sy’n gysylltiedig â weldio Nwy Anadweithiol Metel (MIG) ar ddur carbon isel. Mae’n cwmpasu ystod o uniadau a safleoedd weldio syml a ddefnyddir mewn diwydiant sy’n adlewyrchu lefel y cymhwyster. Bydd y dysgwr yn gallu dewis yr offer a’r dulliau gweithio priodol i gyflawni’r canlyniad dymunol. Bydd y dysgwr yn gallu nodi’r risgiau sy’n gysylltiedig â weldio MIG a sut i’w lleihau.
 - Weldio MMA – Mae’r uned hon yn ymwneud â’r dechnoleg broses sylfaenol sy’n gysylltiedig â weldio arc metel â llaw (MMA) ar ddur carbon isel. Mae’n cwmpasu ystod o uniadau a safleoedd weldio syml a ddefnyddir mewn diwydiant sy’n adlewyrchu lefel y cymhwyster. Bydd y dysgwr yn gallu dewis yr offer a’r dulliau gweithio priodol i gyflawni’r canlyniad dymunol. Bydd y dysgwr yn gallu nodi’r risgiau sy’n gysylltiedig â weldio MMA a sut i’w lleihau.
 - Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu tiwtorialau rheolaidd.
 
					 A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol? 
							
			
			
		
						
				Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
 - pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
 
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
					 Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg? 
							
			
			
		
						
				Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
					 Sut y byddaf yn cael fy asesu? 
							
			
			
		
						
				- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
 - Portffolio o dystiolaeth
 - Arholiad ymarferol
 - Arholiad ysgrifenedig
 - Arholiad ar-lein
 
					 Beth alla i ei wneud nesaf? 
							
			
			
		
						
				Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gall dysgwyr wneud cais am raglen Weldio a Gwneuthuriad Lefel 2.
Symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Weldiwr, Peiriannydd Cynnal a Chadw, Arolygydd Asedau, Peiriannydd Pibellau, Gosodwr Pibellau Offeryn, Plater, Rigiwr, Technegydd Diogelwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
					 Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer? 
							
			
			
		
						
				- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
 - Oferols gwrth-fflam peirianneg - £35
 - Esgidiau diogelwch peirianyddol - £14/£35
 - Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
 
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
					 A oes unrhyw gostau ychwanegol? 
							
			
			
		
						
				- Dim ffi dysgu
 - Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy peirianneg o £85 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
 - Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
 - Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
 
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Modd: | |
|---|---|
| Lefel: | |
| Hyd: | 
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
								
                        
                        