Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Teithio a Thwristiaeth

Teithio a Thwristiaeth

Teithio a Thwristiaeth

Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE mewn Teithio a Thwristiaeth

Mae’r diwydiant twristiaeth yn hanfodol bwysig i lawer o sectorau o’r DU, ar raddfa leol a chenedlaethol, gan wneud gwahaniaeth sylweddol i economi’r DU a darparu miliynau o swyddi ledled y byd. Gall y cwrs hwn ddatblygu eich gallu i addasu mewn amgylchedd gwaith, eich cyfathrebu ag eraill, eich hyder a’ch sgiliau ar sut i weithio’n llwyddiannus mewn tîm. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi allu ffynnu mewn unrhyw rôl teithio a thwristiaeth.

DYSGWYR:
ID: 49589

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Bydd y cwrs hwn yn addas ar gyfer darpar fyfyrwyr sydd ag uchelgais o weithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, boed yn drefnu a chynnal digwyddiadau, ymchwilio i rôl criw caban, datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, marchnata busnesau twristiaeth, a llawer mwy o rolau, a all. eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn cyrchfan o’ch dewis.

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn fel arfer yn digwydd dros 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae cwblhau’r Diploma Estynedig yn llwyddiannus ym mlwyddyn dau gyfwerth â thair Lefel A.

Trwy amrywiaeth o asesiadau, byddwch yn dod i wybod am gyrchfannau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn ymchwilio i’r hyn y mae’r diwydiant busnes a thwristiaeth yn ei olygu.

Yn ogystal â hyn, cewch gyfle i wneud profiad gwaith yn y diwydiant twristiaeth. Fel rhan o’r cwrs, bydd gofyn i chi gwblhau o leiaf 45 awr o brofiad gwaith yn ystod y cyfnod rhwng Chwefror a Mai yn ystod eich diwrnod astudio.

Mae gweithgareddau ymarferol yn nodwedd bwysig o’r cwrs a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymweliadau â diwydiant pan fo’n briodol, a fydd yn cynnwys astudio busnesau a redir yn lleol/cenedlaethol (nid yw cost y teithiau hyn wedi’i chynnwys yng nghost y cwrs) .

  • Five GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh and Mathematics/Numeracy at grade D or above
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course information session or informal interview
  • Successful completion of relevant Level 2 programme with a merit grade or above in addition to a successful decision from progression board meeting
  • GCSE English Language/First Language Welsh at grade C or above
  • GCSE Mathematics/Numeracy at grade D or above

Bydd y cwrs yn:• canolbwyntio ar astudio’r sectorau teithio a thwristiaeth mewn nifer o feysydd galwedigaethol• cynnig ehangder a dyfnder astudio, gan ymgorffori craidd allweddol o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth• darparu cyfleoedd i gaffael nifer o sgiliau ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaithMae’r unedau gorfodol i’w hastudio yn cynnwys:• Diwydiant teithio a thwristiaeth y DU• Gwasanaeth cwsmeriaid mewn teithio a thwristiaeth• Paratoi ar gyfer gyrfa mewn teithio a thwristiaethMae unedau dewisol i ddewis ohonynt yn cynnwys:• Atyniadau ymwelwyr y DU• Lletygarwch mewn teithio a thwristiaeth• Profiad gwaith mewn teithio a thwristiaeth• Gweithrediadau asiantaeth deithio• Diwydiant cynadleddau a digwyddiadau’r DU• Marchnata ar gyfer teithio a thwristiaeth• Diwydiant trafnidiaeth teithwyr y DU• Rolau a chyfrifoldebau cynrychiolwyr cyrchfannau• Archwilio criw caban cwmni hedfan• Meysydd awyr y DU• Y diwydiant mordeithiau• Safleoedd treftadaeth y DU• Twristiaeth gyfrifol• Twristiaeth arbenigol• Teithio busnes• Adrodd straeon ar gyfer twristiaethWrth gwblhau’r cymwysterau hyn, gall dysgwyr ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn cyflogeion gan gynnwys:• gweithio mewn tîm• dysgu annibynnol•datrys Problemau• gwerthfawrogiad o ymddygiad a gwisg briodol• sgiliau rhyngbersonol priodol• cyfathrebu â chydweithwyr/cyfoedion proffesiynol a/neu bobl hŷn hierarchaidd• cefnogi darpar gyflogeion eraill• materion personol ac alltudiaeth• deall arferion gwaith a sut mae rolau ac adrannau gwahanol yn gweithredu o fewn sefydliadFel rhan o’r rhaglen hon byddwch hefyd yn astudio’r Rhaglen Twristiaeth Cyrchfan, sef cyfres ychwanegol o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Cynlluniwyd y rhaglen i roi cipolwg a chodi ymwybyddiaeth o gyfleoedd o fewn y sector twristiaeth yn Sir Benfro a thu hwnt:• Cyfuniad o siaradwyr gwadd, ymweliadau â sefydliadau lleol a chyrsiau byr a/neu weithio ar brosiect byw• Lleoliad gwaith estynedig mewn lleoliad busnes o fewn y sector twristiaeth• Prosiect estynedig sy’n eich galluogi i ddatblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau i wella cyfleoedd cyflogaeth a gwella cymwysiadau prifysgol

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Portfolio of evidence
  • Workplace evidence
  • Completion of a final major project

Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Rheolwr Twristiaeth Antur, Criw Caban Awyr, Cynorthwyydd Gwybodaeth Awyrennau, Concierge, Rheolwr Canolfan Gynadledda, Stiward Llong Fordaith, Rheolwr Gwasanaeth Cwsmer, Cydlynydd Adloniant, Rheolwr Digwyddiad , Rheolwr Gwasanaethau Gwesteion, Swyddog Treftadaeth, Rheolwr Gwesty, Derbynnydd Gwesty, Rheolwr Twristiaeth Rhyngwladol, Cynorthwy-ydd Amgueddfa, Rheolwr Derbynfa, Rheolwr Cyrchfan, Rheolwr Taith, Swyddog Twristiaeth, Tywysydd Twristiaid, Trefnwr Teithiau, Rheolwr Atyniadau Ymwelwyr.Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
  • A memory stick/a small portable USB hard drive
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • No tuition fee
  • We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 11/12/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close