Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Myfyrwyr adeiladu y coleg yn dysgu sgiliau traddodiadol

Dry Stone Walling

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr sy’n astudio adeiladu yng Ngholeg Sir Benfro gyfle i ddysgu sgiliau gwaith maen traddodiadol tra’n helpu i adfer muriau tref hanesyddol Penfro.

Cynhaliwyd y cyntaf o ddau gwrs blasu mewn gwaith maen treftadaeth yn ddiweddar gyda deg o fyfyrwyr adeiladu yn cymryd rhan mewn prosiect sy’n edrych i ddatblygu cynllun rheoli hirdymor ar gyfer Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Cynhelir yr ail gwrs ym mis Mai gyda grŵp arall o fyfyrwyr.

Cynlluniwyd y cyrsiau hyfforddi yn arbennig ar gyfer y prosiect gan Ganolfan Tywi sydd wedi’i lleoli yn Llandeilo ac fe’u harweiniwyd gan Oliver Coe o Coe Stone Ltd yn Hwlffordd. Darparwyd cyngor ar hyfforddi pobl ifanc yn y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwaith yn y sector gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB).

Darparodd Sgiliau Adeiladu Cyfle hefyd liniaduron i’r holl fyfyrwyr gwblhau eu hyfforddiant ar-lein a rhoddodd set o offer iddynt fynd ar y safle i weithio ar un o waliau bwrdais Penfro am yr ail wythnos diolch i gyllid gan CITB.

Bydd nifer fach o fyfyrwyr nawr yn ymgymryd â rhywfaint o brofiad gwaith pellach gydag Oliver Coe i adfer wal orllewinol platfform gynnau’r Rhyfel Cartref ar hyd muriau gogleddol Penfro.

Dywedodd Arwyn Williams, Pennaeth y Gyfadran Peirianneg, Cyfrifiadura, Adeiladu ac Addysg Uwch yn y Coleg: “Mae’r dysgwyr wedi cael profiad aruthrol ac mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant llwyr. Mae Oliver wedi gwneud gwaith eithriadol o ennyn diddordeb y dysgwyr a dylen ni i gyd fod yn falch iawn o’r pythefnos diwethaf a’r misoedd o gynllunio. Diolch i Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro am gael y weledigaeth i osod allan y prosiect.”

Shopping cart close