Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Dylunio’r dyfodol

Learner Amy Wilson stands smiling in front of solar panels

Mae Amy Wilson, sy’n ddysgwr Dylunio a Rheolaeth Adeiladu Lefel 3, wedi sicrhau lle yn un o’r ysgolion pensaernïaeth gorau ym Mhrydain, Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA).

 

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Emlyn, mae Amy yn edrych ymlaen at gofrestru ar y BSc mewn Astudiaethau Pensaernïol, a fydd yn canolbwyntio ar hanes pensaernïol, theori, technoleg a dylunio proffesiynol.

 

Dywedodd Amy, “Dw i wastad wedi breuddwydio am fod yn bensaer a dw i’n gwrthod rhoi’r gorau i’r freuddwyd honno. Dw i am helpu i newid y byd o fy nghwmpas, er gwell. Mae’r Coleg wedi bod yn rhwydwaith cefnogi gwych ac mae’r cwrs dw i’n astudio ar hyn o bryd wedi rhoi cipolwg gwirioneddol i mi ar fyd pensaernïaeth.”

 

Tra ar ei chwrs presennol mae Amy wedi bod yn dysgu am luniadau, tendrau, CAD, iechyd a diogelwch, mathemateg, gwyddoniaeth, tirfesur a chynaliadwyedd.

 

Dywedodd y darlithydd Stephen Tindall, “Ar hyn o bryd mae Amy ar ail flwyddyn ein rhaglen llawn-amser dwy flynedd. Mae wedi cwblhau ei blwyddyn gyntaf o astudiaethau yn llwyddiannus gan ennill graddau rhagoriaeth yn bennaf ym mhob pwnc a gymerwyd a disgwylir iddi gyflawni canlyniadau tebyg yn ystod ei hail flwyddyn.

 

Mae Amy yn dangos ymroddiad ac ymrwymiad gwirioneddol i’w hastudiaethau, gan weithio’n galed o fewn ac allan o’r ystafell ddosbarth. Mae hi bob amser wedi bod yn benderfynol o astudio pensaernïaeth, o’r tro cyntaf i ni gwrdd â hi. Dywedodd Amy ei bod am astudio gradd pensaernïaeth yn y brifysgol. Oherwydd ei hagwedd gadarnhaol, mae Amy wedi llwyddo i sicrhau cynnig i astudio Pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Caerdydd, nid yn unig yn un o brifysgolion gorau’r DU ond yn fyd-enwog am ansawdd dysgu ac addysgu pensaernïaeth.

 

Mae pob un o ddarlithwyr Amy yn gytûn bod ei hagwedd a’i hetheg gwaith yn addas ar gyfer astudio o fewn amgylchedd prifysgol ac y bydd yn gaffaeliad i WSA Caerdydd.”

 

Yn angerddol ac yn awyddus i ddysgu mwy, mae Amy hefyd wedi astudio’r pwnc Lefel AS Mathemateg ochr yn ochr â’i hastudiaethau Lefel 3.

 

Trafododd Amy yr hyn sy’n ei hysbrydoli, “Mae gen i obsesiwn gyda phensaernïaeth gynaliadwy, a dw i’n cael fy ysbrydoli i fod yn rhywun sy’n gallu dylunio strwythurau a fydd yn helpu i drawsnewid y byd a lleihau ei ôl troed carbon. Dw i’n cael llawer o ysbrydoliaeth gan benseiri fel Friedensreich Hundertwasser a Ken Yeang. Mae eu gwaith nid yn unig yn weledol esthetig ond hefyd yn cynnig dyluniadau sy’n seiliedig ar ecoleg a deunyddiau cynaliadwy.”

 

Dyheadau Amy yn y dyfodol yw bod yn gyflogedig gyda chwmni sefydledig ac agor ei phractis annibynnol ei hun un diwrnod.

 

I gael gwybod mwy am ein BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig a Dylunio ewch i: www.pembrokeshire.ac.uk/courses/construction-design-management/

Shopping cart close