Roedd Coleg Sir Benfro yn falch iawn o groesawu Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford i agor y Ganolfan Ragoriaeth Weldio a Ffabrigo yn swyddogol.
Ar ôl cyrraedd, cyfarchwyd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford gan Dr Barry Walters, Pennaeth y Coleg, Pennaeth Cynorthwyol Jackie Mathias a Chadeirydd Bwrdd y Gorfforaeth Iwan Thomas ar gyfer taith o gwmpas y Coleg yn bwrw golwg ar gyflawniadau myfyrwyr Peirianneg o fewn y Coleg ac yn allanol yng nghystadlaethau WorldSkills UK.
Roedd y Ganolfan Ragoriaeth Weldio a Ffabrigo yn llawn o gyflogwyr lleol o’r diwydiant peirianneg i weld y Prif Weinidog Mark Drakeford yn agor y Ganolfan Ragoriaeth Weldio a Ffabrigo lle mae’r darpar weithlu yn datblygu eu sgiliau hanfodol.
Agorodd y Pennaeth Peirianneg, Arwyn Williams y digwyddiad gydag araith groesawgar, a ddilynwyd gan y dysgwr Peirianneg Fecanyddol Lefel 3 Uwch Rhiannon Clapham a Nick Revell, Rheolwr Gyfarwyddwr Ledwood Engineering cyn i’r Prif Weinidog agor y ganolfan yn swyddogol gydag araith ac yna dadorchuddio plac y Ganolfan Ragoriaeth Weldio a Ffabrigo.
Dywedodd Pennaeth y Coleg, Dr Barry Walters:
“Rwyf wrth fy modd ac yn ddiolchgar i’r Prif Weinidog am roi o’i amser i fynychu ac agor y Ganolfan yn ffurfiol.
“Ni fyddai adeiladu’r cyfleuster hwn wedi bod yn bosibl heb gymorth a mewnbwn cymaint ac rwyf am ddiolch yn gyhoeddus iddynt am hynny. Yn gyntaf oll, Llywodraeth Cymru am ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu sydd wedi ariannu 65% o’r gost o £3.4m ar gyfer yr adeilad newydd hwn ac i WB Griffiths am adeiladu’r cyfleuster hwn.
“Rhaid i mi hefyd dynnu sylw at y cyfraniadau gwych a wnaed gan Andrew Nixon (Powell Dobson Architects), Adam Penny (Quantum CLS), Dylan Gravell (CB3 Consult) ac Ymgynghorwyr Trydanol a Mecanyddol, Richard a Paul Bullock a Neal O’Leary a’i dîm o Llywodraeth Cymru am eu harweiniad a’u cymorth ariannol drwy’r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
“Rwyf hefyd am gydnabod y cyfraniad a ddarparwyd gan Fwrdd Corfforaeth y Coleg a’r gwaith a wnaed gan Steve Jones ac Alex Hesse o Ystadau a Thîm Rheoli’r Gyfadran Beirianneg.”
Gwahoddwyd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r holl westeion i edrych y tu mewn i’r gweithdai Weldio a Ffabrigo yn y Ganolfan i gael cipolwg dyfnach ar ble mae dysgwyr y Coleg a pheirianwyr y dyfodol yn datblygu eu sgiliau i ddiwallu anghenion diwydiant a helpu i gefnogi’r economi leol.
Ychwanegodd Rhiannon Clapham, dysgwr Peirianneg Fecanyddol Uwch Lefel 3:
“Bydd y Ganolfan Weldio newydd yn helpu llawer o fyfyrwyr i ddysgu sgiliau gwerthfawr a fydd yn cael eu defnyddio yn y gweithle. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys dysgu’r gwahanol fathau o weldiadau mewn weldio MIG, TIG a MMA, yn ogystal â llifanu a mwy.”
Gyda dyfodiad y diwydiant ynni gwynt alltraeth symudol yn Aberdaugleddau a datblygiadau ynni gwyrdd, mae’r Coleg yn falch o ddarparu cyfleuster o safon diwydiant lle gall darpar beirianwyr ymbaratoi ar gyfer y gyrfaoedd proffesiynol a fydd ar gael yn lleol.
Gweler ein cyrsiau Peirianneg