Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Y Cinio Myfyrwyr Gorau

Plate of food, grilled chicken fillet, fondant potato and a sauce.

Mae cinio dathlu yn cael ei weini yng Ngholeg Sir Benfro Nos Iau 16eg Medi am 6.30yh, gyda seigiau’n cael eu creu gan gogyddion blaenllaw’r diwydiant. Fodd bynnag, mae yna dro blasus i’r digwyddiad – ni fydd y cogyddion yn bresennol.

Bydd eu lle yn y gegin yn cael ei gymryd gan fyfyrwyr Academi Fforwm Y Cogyddion a ddysgodd sut i goginio’r seigiau yn ystod dosbarthiadau meistr a gyflwynwyd gan y cogyddion yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf – rhai yn y cnawd, ac eraill trwy gyswllt fideo yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd Wendy Weber, Pennaeth Iechyd, Gofal Plant a Menter Fasnachol: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn cychwyn ar ein 2il flwyddyn gyda Fforwm y Cogyddion ac rydyn ni’n gyffrous gweld rhai o’r seigiau ar y fwydlen gan gogyddion a weithiodd yn agos gyda’n dysgwyr y llynedd. Cafodd ein dysgwyr brofiad gwych mewn blwyddyn Covid felly ni allwn aros iddynt dderbyn hyd yn oed mwy o awgrymiadau a syniadau diwydiant yn ystod y flwyddyn academaidd 21/22. Rydym mor falch o fod yn rhan o’r fenter wych hon.

“Bydd y cinio yn gyfle i’r myfyrwyr roi popeth maen nhw wedi’i ddysgu ar waith a bydd yn adlewyrchiad go iawn o’r bartneriaeth waith anhygoel sydd rhwng Coleg Sir Benfro ac Academi Fforwm Y Cogyddion.”

Ychwanegodd Alan Wright, Tiwtor Lletygarwch: “Mae gennym ddechreuad mor gyffrous i’r flwyddyn academaidd newydd, gyda’n gwasanaeth nos Iau yn ailddechrau ar gyfer y cyhoedd. Rwyf wrth fy modd bod ein nos Iau gyntaf wedi’i neilltuo i Academi Fforwm Y Cogyddion ac yn seiliedig ar rai o’r seigiau a gynhyrchwyd gan ein dysgwyr lefel tri newydd. Mae’n argoeli i fod yn noson i’w chofio, felly archebwch eich bwrdd nawr er mwyn osgoi cael eich siomi.”

Pris y tocynnau yw £19.95 ar gyfer 3 chwrs ac ar gael i unrhyw un – archebwch trwy ffonio 01437 753165.

Dywedodd Dougie Balish, Prif Gogydd The Grove of Narberth: “Mae’n anhygoel bod yn dysgu yn Academi Fforwm Y Cogyddion. Mae mor wych gweld myfyrwyr ifanc yn symud ymlaen i fod yn gogyddion ifanc galluog. Mae gen i ddau fyfyriwr yn gweithio gyda mi yn y gegin nawr ac mae’r cynnydd maen nhw wedi’i wneud yn rhyfeddol. Mae’n wych y byddan nhw’n ail-greu un o fy seigiau a gobeithio ei fod yn rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth iddyn nhw ar gyfer creu rhai eu hunain nes ymlaen!”

Dywedodd Tom Westerland, Cogydd Cenedlaethol Cymru 2018 a Phrif Gogydd Crockers Henley: “Mae’n anhygoel gweld yr holl dalent newydd yn dod drwodd i’r diwydiant. Mae hi bob amser yn wych gweld pa mor frwdfrydig a chyffrous ydyn nhw, gan ddysgu sgiliau a seigiau newydd. Mae’n fy ngwneud mor falch o’u gweld yn ail-greu fy saig ar gyfer y cinio. Mae gan y diwydiant ddyfodol disglair a chyffrous iawn.”

Shopping cart close