Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Llwyddiant Yng Ngemau Monolog Y Byd I Ruby

Ruby-Wilson

Mae myfyriwr Lefel-A Coleg Sir Benfro Ruby Wilson wedi sicrhau’r ail safle yn Rowndiau Terfynol Gemau Monolog y Byd.

Roedd Ruby, un ar bymtheg oed, yn un o dros 3,000 o gystadleuwyr i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, un o ddim ond 200 i gyrraedd y Rowndiau Terfynol Ffrydio Byw Rhanbarthol, ac un o ddim ond 70 i gyrraedd y Rowndiau Terfynol Byd-eang a oedd yn cynnwys chwech categori yn ôl grŵp oedran, lefel profiad a hyd.

Gyda’r pandemig byd-eang yn cau setiau ffilm a theatrau ledled y byd, lansiwyd yr ornest ym mis Mawrth gan Pete Malicki, dramodydd o Awstralia a oedd am roi llwyfan i actorion barhau i gynnal eu sgiliau yn ystod y pandemig coronafirws.

Yn cystadlu yn y Categori Ieuenctid, yn erbyn y perfformwyr gorau o bob cwr o’r byd, roedd perfformiad buddugol Ruby yn seiliedig ar y dicter a deimlwyd yn dilyn chwalfa anodd ac fe’i cyd-ysgrifennwyd gyda’i ffrind Euan Sinclair. Enillydd y categori oedd Sami Hatem o Syria tra aeth y trydydd safle i Estee-Mari Smit o Dde Affrica.

Yn dilyn y gystadleuaeth dywedodd Ruby, “Dw i dal yn methu credu fy mod i hyd yn oed wedi mynd i mewn i’r gystadlaethau fyd-eang yn y lle cyntaf, heb sôn am fod yr unig un o Ewrop yn y tri uchaf. Roedd cyrraedd yr ail safle yn sioc enfawr – ond yn y ffordd orau bosibl”.

Gallwch weld perfformiad Ruby ar-lein ar: www.monologues.com.au/WMG

Shopping cart close