Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Myfyrwyr Yn Helpu Siôn Corn I Fod Yn Barod

Santas sleigh

Diolch i help myfyrwyr Coleg Sir Benfro, cyn bo hir bydd car llusg Siôn Corn yn barod i godi i’r awyr eto (neu o leiaf strydoedd Hwlffordd) yn dilyn prosiect adnewyddu helaeth.

Mae dysgwyr peirianneg ac adeiladu’r Coleg wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf yn adnewyddu car llusg Siôn Corn yn barod ar gyfer ‘Taith Siôn Corn drwy Hwlffordd 2020’ ar y cyd â Chyngor Tref Hwlffordd, y Cynghorydd Sir Alison Tudor, Pure West Radio a Garej Millforge.

Eleni bydd Siôn Corn a’i car llusg yn mynd drwy strydoedd Hwlffordd rhwng y 14eg a’r 17eg Rhagfyr o 5yh bob dydd. Tra bod rheoliadau COVID yn cyfyngu ar gwrdd â Siôn Corn wyneb yn wyneb gallwch ymuno yn y dathliadau o stepen eich drws a chwifio at Siôn Corn wrth iddo fynd heibio!

Dywedodd Maer Hwlffordd Alan Buckfield: ‘Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda’n partneriaid ar y digwyddiad hwn i ddod â llawenydd Nadoligaidd i Hwlffordd y Nadolig hwn gyda diolch arbennig i fyfyrwyr Coleg Sir Benfro am eu cyfraniad.’

Mae’r car llusg wedi elwa o adferiad llawn ynghyd â chot o baent newydd , to newydd, goleuadau disglair, system sain uwch i floeddio’r gerddoriaeth Nadoligaidd, a seddi cyfforddus i Siôn Corn a’i helpwr!

I ddarganfod pa ddyddiad y bydd Siôn Corn yn dod i’ch stryd yn Hwlffordd, ewch i: www.purewestradio.com a chlicio ar ‘Santa Run 2020’. Gallwch hefyd ddefnyddio’r wefan hon i ddilyn Siôn Corn bob nos fel y gallwch ddarganfod pryd y mae ar ei ffordd atoch chi.

Mae’r digwyddiad hwn eleni yn codi arian ar gyfer elusennau a ddewiswyd gan y Maer: ‘The Pembrokeshire Friends of Prostate Cymru’ a ‘The Maisie Moo Foundation’. Gellir gweld manylion sut y gallwch roi ar wefan Pure West Radio: www.purewestradio.com

Shopping cart close