Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Myfyrwyr Coleg Sir Benfro yn dod â’r medalau adref

Skills Competition Medal

Llwyddodd 41 o fyfyrwyr anhygoel Coleg Sir Benfro i gyrraedd rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni gyda 20 yn sicrhau medalau – gan eu gwneud yn rhai o hyfforddeion ifanc gorau’r wlad yn eu dewis ddisgyblaethau.

Gyda 61 o gystadlaethau, ar draws pum sector diwydiant, nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau’r dyfodol drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc tra’n dathlu eu cyflawniadau.

Eleni cymerodd dros 1,100 o fyfyrwyr o golegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant preifat ran yn y cystadlaethau, gyda 41 o fyfyrwyr o Goleg Sir Benfro yn cyrraedd y rowndiau terfynol ar draws ystod eang o feysydd cwricwlwm o’r celfyddydau coginio i arddwriaeth, gofal plant a chynhyrchu cyfryngau.

Mewn seremoni wobrwyo rithwir a gynhaliwyd gan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, cyhoeddwyd 20 o fyfyrwyr Coleg Sir Benfro yn enillwyr medalau gan sicrhau pum medal aur, wyth arian a saith efydd. Yna gwahoddwyd enillwyr medalau a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol i gyflwyniad gwobrau a gynhaliwyd gan y Coleg yr wythnos ddiwethaf i dderbyn eu medalau a’u tystysgrifau gan Brif Swyddog Gweithredol PLANED a Chadeirydd Coleg Sir Benfro, Iwan Thomas.

Yn ystod y cyflwyniad gwobrau, fe wnaeth Cadeirydd Bwrdd Corfforaeth y Coleg Iwan Thomas, ochr yn ochr â’r Pennaeth Dr Barry Walters, longyfarch y myfyrwyr ar eu cyflawniadau gan nodi bod eu casgliad o fedalau yn gosod y Coleg yn bumed yn y tabl cynghrair medalau sy’n gyflawniad enfawr i’r myfyrwyr, y darlithwyr a’r Coleg yn gyffredinol. Adroddodd Dr Walters hefyd hanes ysbrydoledig y cyn fyfyrwyr Sam Everton a Chris Caine a fu’n cystadlu’n ddiweddar yn rowndiau terfynol rhyngwladol WorldSkills gan ennill Medaliwnau Rhagoriaeth.

Cyn galw’r rhai oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol i’r llwyfan, dywedodd Dr Walters: “Mae’n bleser mawr gallu dathlu eich llwyddiannau anhygoel o flaen eich teulu a’ch ffrindiau. Mae eich cyflawniadau yn eich gosod ymhlith y bobl ifanc mwyaf dawnus yng Nghymru ac yn rhoi llwyfan unigryw i chi barhau i dyfu a datblygu eich sgiliau ymhellach. Edrychwn ymlaen yn awr at weld rhai ohonoch yn dilyn yn ôl traed Sam a Chris a chystadlu’n genedlaethol ac yn wir, yn rhyngwladol.”

Yn amodol ar rownd arall o geisiadau, gallai’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol nawr fynd ymlaen i gystadlu yn y cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol yn WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills rhyngwladol.

Wrth siarad yn y noson wobrwyo rithwir, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae pobl ifanc Cymru yn allweddol i lwyddiant y wlad hon yn y dyfodol felly mae’n wych gweld mentrau fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a’r prosiect Ysbrydoli Sgiliau yn dathlu ac yn arddangos talent ifanc.

“Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn helpu i ddarparu pobl ifanc â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Mae’n cynnig cyfle i unigolion fagu hyder a sgiliau cyflogadwyedd tra’n galluogi cyflogwyr i ddysgu sgiliau swydd-benodol.

“Mae’n hanfodol ein bod yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol ac yn parhau i ddarparu cyfleoedd fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru fel bod llwyfan i bobl ifanc arddangos eu galluoedd. Mae cystadlaethau sgiliau yn darparu llwyfan i bobl symud ymlaen a datblygu i fod yn weithwyr medrus iawn, gan roi yn ôl i’r economi.”

Shopping cart close