Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Y tu ôl i’r llenni yn Tinopolis

Creative Media students at Tinopolis

Yn ddiweddar cafodd myfyrwyr ail flwyddyn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol gyfle i fynd tu ôl i’r llenni yn Tinopolis wrth iddynt ffilmio’r rhaglen Gymraeg boblogaidd yn ystod y dydd, Prynhawn Da sy’n cynnwys eitemau ffordd o fyw fel coginio, ffasiwn ac iechyd a harddwch.

Fel rhan o’r ymweliad, cafodd y myfyrwyr gipolwg uniongyrchol ar gynhyrchiad teledu byw oedd yn cael ei ffilmio. Roeddent yn gallu gweld y tu ôl i’r llenni a chael ymdeimlad o’r holl elfennau sy’n rhan o wneud teledu byw, gan roi gwir deimlad iddynt o’r hyn y gallai gyrfa yn y diwydiant cyfryngau fod yn y dyfodol.

Yn grŵp cynhyrchu a dosbarthu teledu rhyngwladol, Tinopolis yw un o’r cyflenwyr teledu annibynnol mwyaf yn y DU gyda stiwdios yn Llanelli, Caerdydd, Glasgow a Llundain yn ogystal â stiwdios yn UDA a phortffolio sy’n rhychwantu 13 o gwmnïau cynhyrchu cynnwys.

Dwedodd Denys Bassett-Jones, darlithydd y cwrs: “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r tîm yn Tinopolis Llanelli am ganiatáu i ni ymweld â nhw yn ystod ffilmio darllediad byw. Roeddent yn groesawgar iawn ac yn addysgiadol a chafodd y myfyrwyr lawer o hwyl.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Mae ymweliadau o’r math hyn yn rhan annatod o’r cwrs Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol ac rydym yn sicr yn obeithiol mai dyma ddechrau perthynas broffesiynol barhaus rhwng Tinopolis a Choleg Sir Benfro.”

I ddarganfod mwy am gwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol y Coleg.

Shopping cart close