Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Prosiect £30 miliwn a fydd yn datblygu sgiliau ar draws de-orllewin Cymru yn cymryd cam cadarnhaol ymlaen

The Skills & Talent programme

Mae Rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a fydd yn rhoi cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant i filoedd o bobl ledled de-orllewin Cymru, wedi cymryd cam arall ymlaen. Mae’r prosiect peilot cyntaf yn symud ymlaen i’w gyflawni ac mae tîm cyfan y prosiect bellach wedi’i recriwtio ac yn barod i adolygu ceisiadau ar gyfer prosiectau peilot eraill.

Ariennir y rhaglen fuddsoddi £30 miliwn hon, sy’n rhan o bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe o naw rhaglen a phrosiect, gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n arwain y Rhaglen Sgiliau a Thalentau ar ran y rhanbarth, ac mae’n anelu at ddarparu 2,200 o gyfleoedd sgiliau ychwanegol drwy helpu tua 14,000 o bobl i wella eu sgiliau ac i greu o leiaf 3000 o leoliadau prentisiaeth newydd yn ystod y degawd nesaf. Bydd y rhaglen hefyd yn helpu i gefnogi busnesau lleol i dyfu drwy ddatblygu gweithlu talentog ar draws y rhanbarth gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau sydd â galw mawr am weithwyr. Canolbwyntir yn benodol ar y sectorau digidol, adeiladu, ynni, iechyd a llesiant a gweithgynhyrchu clyfar.

Mae’r prosiect peilot cyntaf a gymeradwywyd gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol wedi dechrau ym mis Medi yng Ngholeg Sir Benfro, Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau ac Ysgol Harri Tudur gan weithio mewn cydweithrediad â busnesau lleol. Bydd y prosiect unigryw hwn, a elwir yn Basbort i Gyflogaeth Sir Benfro, yn addysgu myfyrwyr rhwng 5 a 19 oed am Ynni Glas-Gwyrdd, gan eu paratoi ar gyfer y cyfleoedd gwaith lleol sydd ar y gweill yn y sector ynni adnewyddadwy gan gynnwys ynni’r tonnau, y llanw a’r haul, ac ynni’r gwynt ar y môr a’r tir.

Yn y cyfamser, mae tri swyddog newydd wedi’u recriwtio i gefnogi Rheolwr y Rhaglen Sgiliau a Thalentau a byddant yn gyfrifol am Ansawdd y Ddarpariaeth a Monitro, Datblygu Sgiliau, ynghyd ag elfennau o’r rhaglen sy’n ymwneud â Llwybrau Gyrfa. Mae hyn yn rhoi’r rhaglen mewn sefyllfa gref i adolygu ac i ddatblygu’r grŵp nesaf o gynlluniau peilot a fydd yn rhoi cymorth pellach i hybu sgiliau a busnesau ledled y rhanbarth, yn ogystal â chynorthwyo o ran y prinder sgiliau sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, “Mae’n wych gweld y cynnydd gwych y mae Rhaglen Sgiliau a Thalentau y Fargen Ddinesig wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf. Mae’r cynllun peilot cyntaf bellach ar waith, ac rwy’n edrych ymlaen at gadw mewn cysylltiad â’r myfyrwyr a’r disgyblion yn y dyfodol i glywed am yr hyn maent wedi’i ddysgu am dechnoleg adnewyddadwy.Mae ein prosiect Ardal Forol Doc Penfro eisoes wedi rhagweld amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith yn y sector hwn, ac rwy’n sicr y bydd y cyrsiau hyn yn rhoi’r unigolion mewn sefyllfa gref i gael cyflogaeth, yn ogystal â helpu busnesau i dyfu ar draws y rhanbarth.”

Ychwanegodd Barry Liles, Arweinydd Strategol y Rhaglen Sgiliau a Thalentau, “Nawr bod yr holl dîm wedi’i recriwtio, mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i symud ymlaen i roi’r rhaglen ar waith yn ystod y misoedd nesaf ac edrychaf ymlaen at wneud rhagor o gyhoeddiadau ynghylch lansio cynlluniau peilot ychwanegol.

“Mae’r Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn cydgysylltu â phortffolio cyfan y Fargen Ddinesig a bydd yn hanfodol i’w lwyddiant drwy ganiatáu inni ddarparu cyfleoedd i unigolion ennill sgiliau mewn meysydd lle mae galw mawr amdanynt a chael cyflogaeth yn lleol yn y meysydd hyn. Bydd hyn yn helpu i gadw ein talent yn ne-orllewin Cymru, i lywio’r dyfodol ac i dyfu economi ein rhanbarth ymhellach.”

Dywedodd Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro, “Rydym wrth ein bodd ein bod yn cymryd rhan yn astudiaeth beilot gyntaf Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a hynny mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Penfro a busnesau lleol. Rydym newydd groesawu llawer o ddysgwyr ar ein cwrs newydd a fydd yn addysgu ein myfyrwyr ifanc am Ynni Adnewyddadwy, ac rydym yn hyderus y bydd hyn yn cynnig llwybr gwych at yrfa yn y sector hwn.”

Shopping cart close