Mae Cydlynydd Cyflogadwyedd Coleg Sir Benfro ar gyfer yr Academi Sgiliau Bywyd, David Jones, wedi ennill Gwobr Hyrwyddwr Amrywiaeth Cystadleuaeth Sgiliau yng Ngwobrau Arwyr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) WorldSkills y DU 2024. Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni fawreddog a gynhaliwyd yn y Senedd, Llundain ar 7 Mawrth.
Mae Gwobrau Arwyr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant WorldSkills y DU, a gefnogir gan y Grŵp Sgiliau ac Addysg ac UVAC, yn cydnabod llwyddiannau anhygoel unigolion a sefydliadau sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector addysg dechnegol.
Dewiswyd David ar gyfer y wobr oherwydd y gwaith y mae’n ei wneud o ddydd i ddydd i annog ac ysbrydoli ei ddysgwyr i ddileu rhwystrau a chyflawni eu potensial llawn drwy gystadlu yng nghystadlaethau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills y DU.
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills y DU: “Llongyfarchiadau i David ar ennill Gwobr Hyrwyddwr Amrywiaeth Cystadleuaeth Sgiliau eleni yng ngwobrau Arwyr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant WorldSkills y DU.
“Mae eich cyflawniadau wrth ysgogi newid i sicrhau bod yr holl bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw yn cael y cyfle i lwyddo yn wirioneddol ysbrydoledig.
“Yn WorldSkills y DU, rydyn ni’n falch o ddarparu llwyfan ar gyfer dathlu’r rhai sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol. Drwy gydweithio, gallwn ni annog newid gwirioneddol ar draws y sector, gan greu cyfleoedd cynhwysol sy’n rhoi cyfle i bob person ifanc lwyddo mewn gwaith a bywyd.”
Noddodd Charlotte Nichols, AS Gogledd Warrington, y digwyddiad yn y Senedd a dywedodd:
“Llongyfarchiadau i enillwyr Gwobrau Arwyr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant WorldSkills y DU eleni. Roedd yn wych cefnogi’r gwobrau hyn a dod at ein gilydd i ddathlu’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r enillwyr am y tro cyntaf yn y Senedd.”