Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Sylfaen ac Ymarferydd PRINCE2

Sylfaen ac Ymarferydd PRINCE2

Team Leading Course

Mae’r cwrs Sylfaen ac Ymarferydd PRINCE2® hwn wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth ymarferol i gynrychiolwyr o ddull rheoli prosiect strwythuredig PRINCE2®. Bydd yn eu galluogi i ddefnyddio’r dull wrth weithio o fewn prosiect PRINCE2® ac i basio arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd PRINCE2®.

£1,554.00

Out of stock

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs yn ymdrin â maes llafur llawn PRINCE2® ac felly mae’n galluogi cynrychiolwyr nid yn unig i sefyll yr arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd, ond hefyd i ddeall yr ystod eang o egwyddorion, themâu allweddol, prosesau a thechnegau PRINCE2®. Y nod yn ystod y cwrs yw sicrhau cydbwysedd effeithiol rhwng llwyddiant mewn arholiadau a’r angen i drosglwyddo sgiliau.

Mae’n ofynnol i gynrychiolwyr ymgymryd ag astudiaeth ragarweiniol gan ddefnyddio’r Gweithlyfr Cyn y Cwrs o tua 4 awr. Mae cymorth ychwanegol dros y ffôn neu e-bost ar gael gyda’r cwrs hwn gan hyfforddwr achrededig PRINCE2®.

Gellir astudio’r cwrs hwn hefyd fel cwrs hunan-gyflymder ar-lein dros 12 mis.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Central yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 445 / 01437 753 320 neu unrhyw bryd drwy e-bost central@colegsirbenfro.ac.uk

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig
  • Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed

Bydd y pynciau canlynol yn cael sylw:

Diwrnod 1

  • Cyflwyniad i brosiectau a rheoli prosiectau
  • Strwythur PRINCE2
  • Trefn
  • Achos Busnes
  • Cychwyn Prosiect

Diwrnod 2

  • Cychwyn Prosiect
  • Cyfarwyddo Prosiect
  • Cynlluniau
  • Risg

Diwrnod 3

  • Cynnydd
  • Newid
  • Ansawdd
  • Rheoli Cyfnod
  • Rheoli Cyflenwi Cynnyrch
  • Rheoli Terfyniadau Cyfnod
  • Cau Prosiect
  • Teilwra PRINCE2
  • Arholiad Sylfaen Ar-lein – wedi’i drefnu trwy slot amser a awgrymir gan PeopleCert o 3yp ymlaen

Diwrnod 4

  • Gweithdai arholiadau ymarferwyr

Diwrnod 5

  • Paratoi ar gyfer arholiadau ymarferwyr
  • Arholiad Ymarferwr Ar-lein – wedi’i drefnu trwy slot amser a awgrymir gan PeopleCert 12yp ymlaen

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ysgrifenedig
  • Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

  • Dim costau ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Lefel:

,

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 15/01/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close