Showing 85–96 of 120 results
-
Llwybrau Ymgysylltu Hyfforddeiaethau
Dyma raglen Twf Swyddi Cymru+ (JGW+) sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr rhwng 18 – 19 oed yng Nghymru nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
Mae amrywiaeth o lwybrau pwnc ar gael ac ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus, byddant yn caniatáu i chi symud ymlaen i gyflogaeth, prentisiaeth neu gwrs Lefel 1 neu 2 yng Ngholeg Sir Benfro neu gyda darparwr arall.
-
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
Mae Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn darparu cwrs astudio eang, cydlynol, boddhaol a gwerth chweil. Mae’n eich annog i feithrin hyder mewn gwleidyddiaeth, ac agwedd gadarnhaol tuag ati, ac i gydnabod ei phwysigrwydd yn eich bywyd eich hun ac i’r gymdeithas gyfan.
-
Mathemateg
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â Mathemateg Bur a Chymhwysol ac mae’n bwnc gwych i’w gael ar Lefel-A ac mae’n cael ei gydnabod yn eang gan gyflogwyr a phrifysgolion. Os yw’n bwnc yr ydych wedi’i fwynhau hyd yma, pa reswm gwell i barhau i’w astudio!
-
Mathemateg Bellach
Wedi’i anelu at fathemategwyr galluog sydd ag angerdd gwirioneddol am y pwnc ac sydd eisiau dilyn modiwlau ychwanegol, manwl.
-
Mathemateg TGAU Adolygu
£0.00Cynhelir cyrsiau adolygu TGAU Mathemateg ddwywaith y flwyddyn ac maent wedi’u cynllunio i helpu i wella’r sgiliau sydd eu hangen i basio’r arholiad Mathemateg.
-
Mynediad i Addysg Bellach
Datglowch eich potensial llawn gyda’n cwrs addysg bellach arbenigol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr â gallu academaidd nad ydynt, am wahanol resymau, wedi cyflawni portffolio TGAU.
-
Paratoad Milwrol
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl ifanc sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y Lluoedd Arfog Prydeinig, boed hynny’n Fyddin Brydeinig, yr Awyrlu Brenhinol neu’r Llynges Frenhinol, gan gynnwys y Môr-filwyr Brenhinol. Mae’r cwrs yn ennyn diddordeb pobl ifanc mewn dysgu ac yn rhoi’r sgiliau a’r paratoad sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i’r Lluoedd Arfog neu i addysg bellach.
-
Peirianneg Drydanol ac Electronig
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ym meysydd adeiladu a phrofi cylchedau electronig, peirianneg drydanol neu reolaeth ac offeryniaeth yna efallai mai dyma’r cwrs i chi.
-
Peirianneg Fecanyddol
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn unrhyw gangen o beirianneg, yn arbennig purfa a storio, y Weinyddiaeth Amddiffyn, prentisiaethau uwch yn y Lluoedd Arfog a’r diwydiannau mecanyddol, yna efallai mai dyma’r cwrs i chi.
-
Peirianneg Fecanyddol
Os ydych yn ystyried gweithio yn y sector peirianneg mae hwn yn gwrs gwych i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau rhagarweiniol sylfaenol sydd eu hangen.
-
Peirianneg Fecanyddol Uwch
Gyda dysgwyr yn symud ymlaen i brentisiaethau neu swyddi gyda Mercedes F1, Jaguar Landover, United Aerospace, Valero, Cadetiaethau Morwrol yn Ysgol Forwrol Warsash , rhaglen brentisiaeth carlam gyda’r Llynges Frenhinol, Cynulliadau Dewi Sant, PSM International, Insite Technical, Puma, Consort, Dragon LNG a’r Weinyddiaeth Amddiffyn nid yw’n syndod mai dyma ein cyrsiau mwyaf poblogaidd.
-
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Mae’r cwrs hwn yn rhoi ystod eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad i ddysgwyr o weithio gydag amrywiaeth eang o dechnoleg i gefnogi mynediad i’r diwydiant cerddoriaeth neu astudiaeth bellach yn y brifysgol.