Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Addysg Gorfforol

Addysg Gorfforol

Addysg Gorfforol

Addysg Gorfforol Cwrs Lefel A Addysg GorfforolAddysg Gorfforol Cwrs Lefel A Addysg GorfforolAddysg Gorfforol Cwrs Lefel A Addysg GorfforolAddysg Gorfforol Cwrs Lefel A Addysg Gorfforol

Addysg Gorfforol Lefel-A CBAC

Astudiwch y nodweddion personoliaeth a’r rhinweddau sydd eu hangen i gynhyrchu perfformiwr o’r radd flaenaf, gan gynnwys eu strategaethau hyfforddi a maetheg yn ogystal ag astudio agweddau ffisiolegol chwaraeon a chymhwyso’r egwyddorion hyfforddi i’ch perfformiad eich hun yn y gamp o’ch dewis.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch galluogi i ddatblygu gwerthfawrogiad o addysg gorfforol mewn ystod eang o gyd-destunau.
Fe’i cynlluniwyd i integreiddio theori ac ymarfer gyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol. Fe’i cynlluniwyd i integreiddio theori ac ymarfer gyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o sut mae’r cysyniadau amrywiol yn effeithio ar eich perfformiad eich hun, trwy ymchwilio i theori ac ymarfer.

  • Five GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh and Mathematics
  • Physical Education grade B or Science grade B (if Physical Education not taken)
  • Please check the AS Level Options Grid to see if this subject fits into your chosen programme
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course meeting or informal interview

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting
  • Each application is considered on individual merit

Fel rhan o’r cwrs byddwch yn ymchwilio i effeithiau diwylliant a chymdeithas ar chwaraeon, a sut mae chwaraeon heddiw wedi datblygu, gan nodi’r hyn sy’n ysgogi unigolion a chenhedloedd i fabwysiadu chwaraeon fel cyfrwng hamdden yn ogystal â hyrwyddo eu statws gwleidyddol.
Mae yna lu o ddamcaniaethau i’w hastudio, gan gynnwys sut mae sgiliau symud a strategaeth yn cael eu dysgu a’u datblygu; sut mae cystadleuaeth wedi esblygu ac effaith llwyddiant ar hunan-effeithiolrwydd, cymhelliant a hunanhyder.

Bydd y sgiliau a ddysgwyd trwy gydol y cwrs yn cael eu hatgyfnerthu yn y lleoliad go iawn o hyfforddi eraill a thrwy astudio eich gwelliant personol eich hun.
Mae hyn yn sicrhau eich bod nid yn unig yn deall y theori ond hefyd, yn gallu ei chymhwyso.

Bydd yr unedau a astudir yn cynnwys:

  • Archwilio addysg gorfforol
  • Gwella perfformiad personol mewn addysg gorfforol
  • Gwerthuso addysg gorfforol
  • Mireinio perfformiad personol mewn addysg gorfforol

Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Written examination
  • Completion of a final major project

Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Ffisiolegydd Ymarfer Corff, Rheolwr Canolfan Ffitrwydd, Hyfforddwr Personol, Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd, Gweinyddwr Chwaraeon, Hyfforddwr Chwaraeon, Swyddog Datblygu Chwaraeon, Therapydd Chwaraeon, Coreograffydd, Gwyddonydd Clinigol – Gwyddorau Cardiaidd, Rheolwr Digwyddiad, Ymarferydd Gwella Iechyd, Darlithydd Addysg Uwch, Maethegydd, Rheolwr Gweithgareddau Awyr Agored/Addysg, Seicolegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • Textbooks - you will be told about any specific items before you start the course, most textbooks are available to loan from the college library or online libraries
  • Specific sports kit, which you can purchase online before you start the course
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • No tuition fee
  • Enhanced DBS Fee - £49.50, payable on enrolment
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Modd:

Lefel:

Hyd:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 28/10/2025
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close