Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Adeiladu Peirianneg Weldio – Pibellau

Adeiladu Peirianneg Weldio – Pibellau

Adeiladu Peirianneg Weldio - Pibellau

Diploma Lefel 3 ECITB mewn Gwaith Pibellau Adeiladu Peirianneg Weldio

Wedi’i anelu at weldwyr pibellau a phlât, gan gynnwys newydd-ddyfodiaid i adeiladu peirianneg a weldwyr sy’n dymuno datblygu technegau weldio arbenigol ac yn cynnig cyfle i unigolion arddangos a chael eu cydnabod am gymhwysedd galwedigaethol.

ID: 30963

Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:

POA

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cymhwyster Fframwaith Credydau Cymhwyster (QCF) hwn wedi’i gynllunio i asesu a gwirio eich dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau o ran gallu cyflawni gweithgareddau weldio pibellau yn y diwydiant peirianneg adeiladu.

Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.uk

Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.

  • Dau TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Fel arfer nid oes mynediad uniongyrchol i'r cwrs hwn, byddai angen i chi symud ymlaen o gwblhau lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
  • Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
  • Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf

Mae’r unedau a astudir yn cynnwys:

  • Cyfrannu at berthnasoedd gwaith effeithiol ym maes adeiladu peirianneg
  • Gweithio’n ddiogel a lleihau’r risg mewn adeiladu peirianyddol
  • Nodi ac ymdrin â pheryglon ac argyfyngau yn yr amgylchedd gwaith peirianneg adeiladu
  • Siapio cydrannau adeileddau dur gwneuthuredig trwy dynnu defnyddiau gan ddefnyddio offer llaw mewn adeiladu peirianyddol
  • Cydosod cydrannau gwneuthuriadau dur i gwrdd â’r fanyleb mewn adeiladu peirianyddol
  • Ffurfio cydrannau â llaw i fanyleb mewn adeiladu peirianyddol
  • Uno deunyddiau trwy broses weldio a reolir â llaw mewn adeiladu peirianneg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Portffolio o dystiolaeth
  • Tystiolaeth gweithle
  • Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?

Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 21/05/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close